Sjælland (Almaeneg: Seeland, Saesneg: Zealand) neu Seland yw ynys fwyaf Denmarc. Gydag arwynebedd o 7.031 km², hi yw'r ynys fwyaf yn y Môr Baltig. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 2,115,317. Ystyr wreiddiol yr enw oedd "lle'r morloi".

Sjælland
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,302,074 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDenmarc Edit this on Wikidata
GwladBaner Denmarc Denmarc
Arwynebedd7,031.3 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Baltig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.57°N 11.89°E Edit this on Wikidata
Hyd132 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ar Sjælland y mae prifddinas Denmarc, Copenhagen, a hen brifddinas y wlad, Roskilde. Mae pontydd yn ei chysylltu a thir mawr Denmarc, ac ers 2000 mae Pont Öresund yn ei chysylltu a thalaith Schonen yn Sweden.

Lleoliad Sjælland yn Denmarc