Smolensk

dinas yn Rwsia

Dinas yn Rwsia yw Smolensk, prifddinas yr oblast o'r un enw, sef Oblast Smolensk. Fe'i lleolir yng ngorllewin talaith Canol Rwsia ger y ffin a Belarws. Llifa afon Dnieper heibio i'r ddinas.

Smolensk
Mathdinas fawr, prifddinas, city/town in Russia Edit this on Wikidata
Poblogaeth312,896 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 863 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAlexander Novikov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Hagen, Tulle, Kerch, Targovishte, Woodstock, Georgia, Kaluga Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOblast Smolensk Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd166.35 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr242 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Dnieper Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.7828°N 32.0453°E Edit this on Wikidata
Cod post214000–214999 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAlexander Novikov Edit this on Wikidata
Map
Kremlin Smolensk

Hanes golygu

Sefydlwyd Smolensk erbyn y 9g. Yn y 13g cafodd ei hanreithio gan y Tatariaid. Am gyfnod hir bu Rwsia, Gwlad Pwyl a Lithwania yn ymgiprys am reolaeth arni a daeth yn rhan o Rwsia yn derfynol yn 1654. Roedd y ddinas ar lwybr ymgiliad Napoleon o Moscfa yn 1812. Dioddefodd ddifrod sylweddol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Eglwys gadeiriol
  • Cofadeilad Eryrodion

Enwogion golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.