Ynys fach, a'i thair rhagynys, ym Môr Arabia (Cefnfor India) i'r dwyrain o Gwlff Aden oddi ar Gorn Affrica, yw Socotra (Arabeg سقطرى ; Suqutra). Mae'n perthyn i'r Iemen, yn Arabia, fel rhan o dalaith Aden, ac yn gorwedd oddi ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Somalia (Somaliland). Gydag arwynebedd o 3600 km², mae'n rhan o gyfandir Affrica yn ddaearegol fel ynys gyfandirol. Mae'n gartref i sawl rhywogaeth unigryw, yn enwedig pryfed cop a phlanhigion.

Socotra
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth42,842 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSocotra Archipelago Edit this on Wikidata
GwladIemen Edit this on Wikidata
Arwynebedd3,796 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,503 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Arabia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau12.51°N 53.92°E Edit this on Wikidata
Hyd132 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethrhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Delwedd lloeren o Socotra
Map o'r ynysoedd
Coeden y Ddraig, un o blanhigion unigryw Socotra

Mae tua 80,000 o bobl yn byw ar yr ynys gyda 43,000 yn y brifddinas, Hadiboh. Siaradant Socotreg, tafodiaith o'r Arabeg a siaredir yn Iemen.

Roedd Socotra yn rhan o uwchgyfandir Gondwana ond torrodd yn rhydd yn y Plïosen Canol (tua 6 miliwn o flynyddoedd yn ôl), fel rhan o'r un broses ymrwygo a greodd Gwlff Aden hefyd.

Yn ogystal a'r brif ynys Socotra, ceir tair ynys bychain a adnabyddir fel "Y Brodyr" — Abd al Kuri, Samhah, Darsa — ac ambell ynys fechan greigiog arall. Ar y brif ynys ceir ardal arfordirol, yna llwyfandir calchfaen, a mynyddoedd Haghier sy'n codi i 5,000 troedfedd (1,525 m). Hyd Socotra yw tua 80 milltir (130 km). Hinsawdd anaialdir trofannol sydd gan yr ynysoedd, gyda'r monsŵn yn dod â glaw a gwyntoedd mawr.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.