Sofliar

rhywogaeth o adar
Sofliar
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Galliformes
Teulu: Phasianidae
Genws: Coturnix
Rhywogaeth: C. coturnix
Enw deuenwol
Coturnix coturnix
(Linnaeus, 1758)
Coturnix coturnix

Mae'r sofliar (Coturnix coturnix) yn aelod o deulu'r Phasianidae, y ffesantod. Mae'n nythu ar draws rhannau helaeth o Ewrop ac Asia. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r teulu, mae'r sofliar yn aderyn mudol, sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica. Petrisen fach ydyw felly, heb fod llawer mwy nag aderyn y to, sydd yn ffynnu yng ngwledydd y de ac yn cyrraedd y parthau hyn yn achlysurol.

Nythu golygu

Ar lawr y mae'r sofliar yn nythu, mewn cnydau neu laswellt. Gall nythu pan nad ond yn 6–8 wythnos oed. Dodwyir 6–18 ŵy.

Adnabod golygu

Gellir adnabod y sofliar yn weddol hawdd os ceir golwg dda arni, ond mae'n aml yn anodd iawn ei gweld; ei chlywed a wneir gan mwyaf. Clywyd galwad ddigamsyniol y ceiliog sut-mae-siw, sut-mae-siw mewn cae yd ger Llyn Ystumllyn ar y cyntaf o Awst[1]. Mae'n aderyn bychan, 17 cm o hyd, gydag adenydd hir. Pryfed a hadau yw ei fwyd.

Statws yng Nghymru golygu

A barnu wrth gynnwys gwleddoedd y Canol Oesoedd[2] mae'n debyg bod y sofliar yn llawer mwy niferus nag y bu o fewn cof. Mae niferoedd bychan o'r sofliar yn nythu yng Nghymru yn yr haf, ond mae'n aderyn pur brin fel rheol. Ambell flwyddyn, ceir niferoedd mwy.

'Blynyddoedd sofliar' golygu

Roedd 1976 - a'r flwyddyn ganlynol - yn flwyddyn soflieir.

Blwyddyn y sofliar Daeth neges i raglen Galwad Cynnar ar 25 Mehefin 2011 am sofliar yn canu yn ddiweddar yn Sir Gaer - a recordiad arbennig o’r alwad wet-my-lips..wet-my-lips . Dilynwyd yr eitem gan gofnod arall ohono gan Tony White ger Llyn Coron, Môn.

Dyma gofnodion am soflieir mewn blynyddoedd a fu yng Nghymru:

  • 1870: numerous gogledd Cymru (5 cofnod, Cymru a thu hwnt)
  • 1880: a brace, Glanusk, Aberhonddu
  • 1929: saw a single Quail, Corwen[3]
  • 1931: two coveys of Quail, Hendre, Sir Fflint[4]
  • 1933: a bevy of Quail .. inhabited the stubble...near Lake Bala[5]
  • 1934: Brynllyn, Corwen
  • 1976: cae ŷd, Llyn Ystumllyn, Cricieth
  • 1977: quail, in Juncus maritimus marsh, TAW Davies thought there were at least 3 birds, Morfa Harlech
  • 1988: Cors Erddreiniog, Môn Mehefin 1988 [6]
  • 2009: Mochras (Rhys Jones) a Dinas Dinlle (RSPB) tua’r 9 Mehefin, a’r sylw cyffredinol hwn:
It has been a bumper weekend for COMMON QUAIL (15 Mehefin) with very large numbers dispersing northwards from southern Europe, including 23 calling males in one small area in South Yorkshire. The most showy however are the 3 territorial males in Hertfordshire, giving exceptional views as they battle for supremacy on the track between the Barley fields between Baldock and Wallington[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. Bwletin Llên Natur rhif 7, tud.2
  2. Lovegrove, R. (bbbb): Birds in Wales; Poyser
  3. British Birds 1932
  4. British Birds Ebrill 1932
  5. British Birds 1935
  6. Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC)
  7. Gwefan adar. http://www.hnhs.org