Ardal faestrefol ym Mwrdeistref Llundain Ealing, Llundain Fwyaf, Lloegr, ydy Southall.[1] Saif tua 10.7 milltir (17.2 km) i'r gorllewin o ganol Llundain.[2]

Southall
Mathardal o Lundain, tref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Ealing
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaHayes Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5111°N 0.3756°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ125805 Edit this on Wikidata
Map

Mae Southall yn un o gymunedau mwyaf Prydain o bobl o India a Phacistan. Mae ganddi ddeg gurdwara, yn cynnwys y Gurdwara Sri Guru Singh Sabha, un o demlau Sikh mwyaf y byd y tu allan i India. Yn ogystal, ceir dwy deml ("Mandir") Hindw a thair mosg.

Yn yr 1920au a'r 1930au daeth Southall yn gartref i nifer o ymfudwyr o Gymru a ddaeth i chwilio am waith. Roedd acenion Cymraeg i'w clywed yn gyson yn yr ardal.

Arwydd Gorsaf Southall yn Saesneg a Punjabi

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 6 Mai 2019
  2. Yn draddodiadol, ystyrir Charing Cross fel canol Llundain, a mesurir pellteroedd i'r brifddinas o'r pwynt hwnnw.


  Eginyn erthygl sydd uchod am Llundain Fwyaf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.