Stadiwm Dinas Caerdydd

Stadiwm tîm Pêl-droed Cymru a CPD Dinas Caerdydd

Maes chwaraeon 26,828 sedd yn ardal Lecwydd, Caerdydd, yw Stadiwm Dinas Caerdydd (Saesneg: Cardiff City Stadium). Mae'n gartref i dîm pêl-droed Ddinas Caerdydd a thîm pêl-droed Cymru. Bu tîm rygbi Gleision Caerdydd yn chwarae eu gemau cartref yno hefyd rhwng 2009 a 2012.[1] Ar ôl Stadiwm y Mileniwm, dyma'r ail stadiwm fwyaf yng Nghymru. Agorwyd y stadiwm yn swyddogol ar 22 Gorffennaf 2009 gyda gêm gyfeillgar rhwng Dinas Caerdydd a Celtic.

Stadiwm Dinas Caerdydd
Mathstadiwm pêl-droed Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol22 Gorffennaf 2009 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2007 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaerdydd Edit this on Wikidata
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.47278°N 3.20306°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganC.P.D. Dinas Caerdydd Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethC.P.D. Dinas Caerdydd Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu

  1.  Y Gleision 'nôl ym Mharc yr Arfau. BBC Cymru (8 Mai 2012).