Steve Box

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned ym Mryste, Lloegr yn 1967

Mae Steve Box (ganed 23 Ionawr 1967 ym Mryste) yn gyfarwyddwr ac animeiddiwr Seisnig sydd wedi ennill Gwobr yr Academi. Gweithia i gwmni Aardman Animations.

Steve Box
Ganwyd23 Ionawr 1967, 1956 Edit this on Wikidata
Bryste Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethanimeiddiwr, sgriptiwr, cyfarwyddwr, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Aardman Animations Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Annie, Gwobr yr Academi am yr Animeiddiad Ffilm Gorau Edit this on Wikidata

Roedd ei waith cynharaf ym myd animeiddio'n cynnwys y gyfres deledu Brydeinig The Trap Door i stiwdio animeiddio o Fryste o'r enw CMTB Animation.

Ymunodd Box â Aardman Animations ym 1990. Cyfarwyddodd fideo'r Spice Girls "Viva Forever" ym 1998. Enillodd BAFTA ym 1998 am ffilm 11 munud o hyd wedi'i hanimeiddio o'r enw Stage Fright. Ef ddarparodd y llais hefyd i gymeriad Vince yn y gyfres deledu Rex the Runt.

Box oedd prif animeiddiwr Aardman gyda'r ffilm Chicken Run yn ogystal â bod yn animeiddiwr ar ffilmiau Wallace and Gromit, The Wrong Trousers a A Close Shave. Hefyd, cyd-ysgrifennodd a chyd-gynhyrchodd y ffilm Wallace and Gromit lawn gyntaf Wallace & Gromit: The Curse of the Were-Rabbit gyda Nick Park.