Steve Prefontaine

Rhedwr Americanaidd oedd Steve Roland "Pre" Prefontaine (25 Ionawr 195130 Mai 1975) oedd yn un o sbardunau'r twf mewn rhedeg yn yr Unol Daleithiau yn y 1970au.

Steve Prefontaine
Ganwyd25 Ionawr 1951 Edit this on Wikidata
Coos Bay, Oregon Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 1975 Edit this on Wikidata
o damwain cerbyd Edit this on Wikidata
Eugene Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Oregon
  • Marshfield High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethrhedwr pellter-hir, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd Edit this on Wikidata
Taldra175 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau63 cilogram Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.prefontainerun.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Carreg Pre: cofeb i Steve Prefontaine yn y man bu farw.

Ganwyd yn Coos Bay, Oregon, UDA. Dechreuodd redeg tra'n mynychu Marshfield High School, ac yn ei flwyddyn olaf torrodd y record genedlaethol am y ras ddwy filltir. Tynodd sylw Bill Bowerman, hyfforddwr trac a maes ym Mhrifysgol Oregon a chyd-sefydlydd Nike, Inc.[1]

O ganlyniad i'w lwyddiant ar y trac, roedd 35 o golegau Americanaidd yn dymuno iddo gofrestru gyda hwy.[2] Ymunodd Prefontaine â Phrifysgol Oregon ym 1969, a denodd niferoedd mawr o bobl i wylio ei rasys. Ar ôl iddo raddio, roedd ganddo saith teitl o'r National Collegiate Athletic Association (NCAA): traws gwlad 1970, '71, a '73, a'r ras dair milltir '70, '71, '72, a '73. Mae ei recordiau yn y rasys tair milltir a chwe milltir yn sefyll hyd heddiw. Yn ystod ei yrfa torrodd recordiau cenedlaethol (weithiau rhai ei hunan) 14 o weithiau.[1]

Rhedodd yn y ras 5,000 metr yng Ngemau Olympaidd 1972 ym München, ond er iddo bod yn y blaen am y mwyafrif o'r ras daeth yn bedwerydd.[1]

Bu farw Prefontaine mewn damwain car, ger Parc Hendricks yn Eugene, Oregon, pan trodd ei gar godi to drosodd wrth iddo ei yrru. Crynodiad yr alcohol yn ei waed oedd .16; dan gyfraith Oregon mae .10 yn dynodi bod person wedi meddwi.[3]

Cynhelir Ras Goffa Prefontaine bob blwyddyn ym Mae Coos.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Steve Prefontaine. National Distance Running Hall of Fame. Adalwyd ar 10 Tachwedd 2012.
  2. (Saesneg) Prefontaine signs letter. The Bulletin (2 Mai 1969). Adalwyd ar 9 Tachwedd 2012.
  3. (Saesneg) Tests Show Prefontaine Was Drunk. The Milwaukee Journal (31 Mai 1975). Adalwyd ar 10 Tachwedd 2012.
  4. "Steve "Pre" Prefontaine". Steve Prefontaine Foundation (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-24. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2022.

Llyfryddiaeth golygu

  • Jordan, Tom. Pre: The Story of America's Greatest Running Legend (Rodale, 1998).