Tref a phorthladd yn awdurdod unedol Dumfries a Galloway, yr Alban, yw Stranraer[1] (Gaeleg yr Alban: An t-Sròn Reamhar;[2] Sgoteg: Stranrawer).[3]

Stranraer
Mathtref, bwrdeistref fach Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,320 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadInch Edit this on Wikidata
SirDumfries a Galloway Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau54.9014°N 5.035°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS20000302, S19000331 Edit this on Wikidata
Cod OSNX059606 Edit this on Wikidata
Map

Y ddinas agosaf ydy Glasgow sy'n 118 km i ffwrdd.

Stranraer

Mae Stranraer yn gorwedd ar gilfach môr Loch Ryan. I'r gorllewin mae bryniau isel hir Rinnau Galloway (Rinns of Galloway) yn ei chysgodi. Mae priffyrdd yn cysylltu'r dref â Girvan ac Ayr i'r gogledd a Newton Stewart a Dumfries i'r dwyrain. O'r porthladd mae gwasanaethau llong fferi yn cysytllu'r dref a Belffast, Gogledd Iwerddon. O borthladd Cairnryan, ar lan Loch Ryan tua 5 milltir o'r dref, mae gwasanaeth fferi arall yn rhedeg i Larne, Gogledd Iwerddon. Dyma ganolfan weinyddol Gorllewin Galloway.[4]

Tua 6 milltir i'r de-ddwyrain o Stranraer ceir pentref Dunragit a Rhos Dunragit. Credir fod yr enw Dunragit yn tarddu o'r enw Din Reged ("Caer Reged") a oedd yn ganolfan bwysig yn nheyrnas Rheged, un o deyrnasoedd Brythonaidd yr Hen Ogledd.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Stranraer boblogaeth o 10,590.[5]

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 16 Ebrill 2022
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2020-03-20 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 16 Ebrill 2022
  3. "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 16 Ebrill 2022
  4. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-south-scotland-15780705
  5. City Population; adalwyd 16 Ebrill 2022