Y Sudetenland (Tsieceg a Slofaceg: Sudety; Pwyleg: Kraj Sudetów) yw'r term a ddefnyddid cyn 1918, ac o 1938 hyd 1945, am ardal yng nghanolbarth Ewrop lle trigai mwyafrif o bobl Almaenig ei hiaith. Mae'r ardal yn awr yn rhan o Weriniaeth Tsiec.

Trigolion Almaenig yn croesawu'r Wehrmacht yn Komotau (Chomutov).

Daw'r enw o enw mynyddoedd y Sudeten, er ei fod yn cynnwys ardal ehangach na'r mynyddoedd eu hunain. Y prif ddinasoedd yn yr ardal yw Cheb (Eger), Karlovy Vary (Karlsbad), Plzeň (Pilsen), České Budějovice (Budweis), Mariánské Lázně (Marienbad) a Liberec (Reichenberg).

Ar un adeg, roedd y Sudetenland yn perthyn i Awstria-Hwngari. Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth yr ardaloedd hyn yn eiddo Tsiecoslofacia. Pan ddaeth Hitler i rym yn yr Almaen, dechreuodd annog trigolion Almaenig y Sudetenland i alw am gael dod yn rhan o'r Almaen. Datblygodd plaid Natsïaidd gref yno dan arweiniad Konrad Henlein. Meddiannwyd yr ardal gan Hitler, ac yn fuan wedyn yn 1939 meddiannodd weddill y wlad hefyd. Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, gorfodwyd tua 3 miliwn o Almaenwyr ethnig i adael y Sudetenland.