Sussex

sir hanesyddol Lloegr

Sir hanesyddol yn ne-ddwyrain Lloegr yw Sussex. Daw'r enw o'r Hen Saesneg Sūþsēaxe ("Sacsoniaid Deheuol"), ac mae ardal y sir hanesyddol yn cyfateb yn fras i ardal hynafol Teyrnas Sussex a sefydlwyd gan Ælle o Sussex yn 477 CC, a daeth yn rhan o deyrnas Wessex yn 825, a teyrnas Lloegr yn ddiweddarach.

Sussex
Mathsiroedd hanesyddol Lloegr Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDe-ddwyrain Lloegr
Poblogaeth1,613,316 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd3,783 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCaint, Surrey, Hampshire Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.947103°N 0.141373°W Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth golygu

Caiff ei ffinio i'r gogledd gan Surrey, i'r dwyrain gan Gaint, i'r de gan y Môr Udd, ac i'r gorllewin gan Hampshire. Caiff ei rannu yn dri ardal llywodraeth leol, sef wedi ei rannu yng Ngorllewin Sussex, Dwyrain Sussex a dinas Brighton a Hove. Crëwyd dinas Brighton & Hove yn awdurdod unedol ym 1997; a derbyniodd statws dinas yn 2000. Tan hynny, Chichester oedd unig ddinas Sussex.

 
Sussex yn Ne Lloegr

Caiff Sussex ei rannu'n dair prif is-ranbarth daearyddol. Yn y de-orllewin mae cwastad arfordirol ffrwythlon gyda phoblogaeth dwys. Mae bryniau sialc y Twyni Deheuol yn rhollio i'r gogledd o hyn, a thu hwnt i'r bryniau ceir ardal goedwigol Sussex Weald.

Hanes golygu

Mae'r ardal y sir hanesyddol yn cyfateb yn fras i ardal hynafol Teyrnas Sussex a sefydlwyd gan Ælle o Sussex yn 477 CC, a daeth yn rhan o deyrnas Wessex yn 825, a teyrnas Lloegr yn ddiweddarach.

Aiff hanes y sir yn ôl ymhellach, gyda Boxgrove, Sussex yn lleoliad nifer o ddarganfyddiadau cynharaf hominid Ewrop. Mae hefyd wedi bod yn safle allweddol ar gyfer o ymosodiadau ar yr ynys, megis Goresgyniad Prydain y Rhufeiniaid a Brwydr Hastings.

Parhawyd i ddefnyddio Sussex fel sir seremonïol hyd 1974, pan benodwyd Arglwydd Raglaw ar gyfer Gollewin a Dwyrain Sussex, yn hytrach nag un Arglwydd Raglaw Sussex. Er y rhaniadau llywodraethol a ddilynodd, mae Sussex gyfan wedi parhau i fod â llu heddlu unedig ers 1968.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.