Sveitarfélagið Hornafjörður

bwrdeisdref, Gwlad yr Iâ

Mae'r Sveitarfélagið Hornafjörður yn gymuned yng Ngwlad yr Iâ. Gorwedd y gymuned yn etholaeth Suðurkjördæmi. Mae'r Vatnajökull, rhewlif fwyaf Gwlad yr Iâ, ar bwys Sveitarfélagið Hornafjörður.

Hornafjörður
MathCymunedau Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,450, 2,547 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSigurjón Andrésson Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSuðurland Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Cyfesurynnau64.295113°N 15.228306°W Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSigurjón Andrésson Edit this on Wikidata
Map
Höfn panorama
Yngannu Hornafjörður

Mae'r fwrdeistref Hornafjörður wedi ei leoli yn ne-ddwyrain yr ynys yn rhanbarth Austurland. Ar 1 Ionawr 2017, roedd gan y gymuned 2187 o drigolion. Maint tiriogaeth y bwrdeisdref yw 6,280 km² - dros chwarter maint Cymru!

Y dref fwyaf a'r unig un yn y fwrdeistref yw Höfn sydd â phoblogaeth o 1633 o drigolion. Mae gan bentref Nesjakauptún 91 o drigolion.

Sefydlu'r Bwrdeisdref golygu

Sefydlwyd y fwrdeistref ar 6 Mehefin 1998 trwy uno'r pedwar cymuned ganlynol:

  • Hornafjarðarbær, a ffurfiwyd ym 1994 gan uno bwrdeistref Höfn í Hornafirði gyda chymunedau gwledig Mýrar (Märahreppur) a Nes (Nesjahreppur)
  • Cymuned wledig Bær (Bæjarhreppur)
  • Cymuned wledig Borgarhöfn (Borgarhafnarhreppur)
  • Cymuned wledig Hof (Hofshreppur)

Daearyddiaeth golygu

 
Porthladd Höfn
 
Rhewlif Vatnajökull ar bwys Sveitarfélagið Hornafjörður

Mae'r fwrdeistref wedi ei leoli i'r de-ddwyrain o Vatnajökull. Lleolir prif dref Höfn ar bentir rhwng fjordiau Hornafjörður a Skarðsfjörður.

Yn rhan orllewinol y fwrdeistref ceir rhaeadr uchaf Gwlad yr Iâ, y Morsárfoss. Mae rhannau o Barc Cenedlaethol Vatnajökull yn y fwrdeistref. Gerllaw mae Kristínartindar a Svartifoss. Yn y de-orllewin mae'r Sandergebiet Skeiðará fawr y Skeiðarársandur, i'r gogledd o'r Skeiðarárjökull. Ymhellach i'r dwyrain mae'r Öræfajökull gyda chopa Hvannadalshnúkur, sy'n codi 2110 m yr tirwedd uchaf Gwlad yr Iâ. Ymhellach i'r dwyrain mae'r Breiðárlón a'r Jökulsárlón, llyn rhewlif fawr a llyn dyfnaf Gwlad yr Iâ.

Trafnidiaeth golygu

Mae'r gymuned wedi'i chysylltu â'r gylchffordd Hringvegur, y briffordd sy'n cysylltu y wlad.

Y pellter i'r brifddinas, Reykjavík, yw 459 km, ac i'r gogledd mae Egilsstaðir sydd 247 km i ffwrdd.

Mae awyrfa Hornafjarðarflugvöllur (Maes Awyr Hornafjörður, IATA: HFN, ICAO: BIHN) tua 7 km i'r gogledd o Höfn.

Gefeilldrefi golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Archifwyd [Date missing], at www2.hornafjordur.is Error: unknown archive URL (isländisch); Zugriff: 13. August 2011
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad yr Iâ. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato