Svyatoslav I, Tywysog Kiev

Tywysog Rws Kiefaidd oedd Svyatoslav I Igorevich (tua 942 - Mawrth 972. Roedd e'n fab i Igor, Tywysog Kiev, a'r Dywysoges Olga. Arweiniodd ymgyrchoedd yn erbyn y Khazariaid ac yn y Balcanau yn erbyn Bwlgaria a'r Ymerodraeth Fysantaidd. Distrywiodd y wladwriaeth Khazaraidd, gan sicrhau'r llwybrau masnach ar lawr Afon Volga a tua'r Môr Du ar gyfer Rws. Roedd ei ymgyrchoedd yn y Balcanau yn llai llwyddiannus. Gwaethygodd y berthynas rhwng Rws a'r Ymerodraeth Fysantaidd yn ystod ei deyrnasiad. Er i'w luoedd gyrraedd cyrion Caergystennin, methodd yn y pendraw ag estyn tiriogaeth Rws yn ddwfn i'r Balcanau. Bu farw ar ei ffordd adref o ymgyrch aflwyddiannus yn y Balcanau.

Svyatoslav I, Tywysog Kiev
Ganwydc. 942 Edit this on Wikidata
Kyiv Edit this on Wikidata
Bu farw972 Edit this on Wikidata
Dnieper Rapids Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRws Kyiv Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiplomydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddTywysog Kiev, Grand Prince of Novgorod Edit this on Wikidata
TadIgor o Kiev Edit this on Wikidata
MamSantes Olga Edit this on Wikidata
PriodPredslava Edit this on Wikidata
PartnerMalusha of Dereva Edit this on Wikidata
PlantYaropolk I of Kyiv, Oleg of the Drevlyans, Vladimir the Great Edit this on Wikidata
LlinachRurik dynasty Edit this on Wikidata

Ei blentyndod a'i deyrnasiad cynnar golygu

Lladdwyd ei dad Igor mewn brwydr â'r Drevlyane yn 942. Yn ystod ei blentyndod, rheolodd ei fam Olga fel rhaglaw drosto tan tua 963. Er i'w fam droi i Gristnogaeth, arhosodd Svyatoslav yn paganiad drwy gydol ei oes.

Distrywiad gwladwriaeth y Khazariaid golygu

Yn ystod ei deyrnasiad, arweiniodd nifer o ymgyrchoedd yn erbyn cymdogion Rws. Roedd ei lwyddiant mwyaf yn erbyn Khazaria, oedd yn rheoli masnach ar hyd Afon Volga. Distrywiodd lluoedd Kiefaidd ddinas Sarkel tua 965, gan sefydlu tref Slafonaidd ar y safle, Belaya Vezha. Yn ddiweddarach, fe ddistrywiodd brifddinas Khazaria, Atil. Roedd y buddugoliaethau dros y Khazariaid yn caniatáu i Rws gymryd rheolaeth dros y llwybrau masnach i'r de tua'r Môr Du.

Ymgyrchoedd yn y Balcanau golygu

 
Cyfarfod Svyatoslav â'r Ymerawdwr Ioan Tzimiskes gan Klavdy Lebedev (1852-1916)

Mewn cynghrair â'r Ymerodraeth Fysantaidd, dechreuodd Svyatoslav ymgyrch yn erbyn Bwlgaria, gan drechu y Bwlgariaid ym Mrwydr Silistra yn 968. Yn y cyfamser, roedd y Pechenegiaid wedi gosod gwarchae ar Kiev, a bu raid i luoedd Svyatoslav ddychwelyd i Rws er mwyn codi'r gwarchae ac i ymladd yn erbyn y Pechenegiaid. Roedd Svyatoslav wedi mynnu cadw'r diriogaeth roedd ef wedi ei feddiannu yn y Balcanau, penderfyniad oedd yn digio'r Bysantiaid. Daeth pethau'n waeth byth iddyn nhw yn 969 a 970, pryd dechreuodd Svyatoslav ymgyrch newydd yn y Balcanau. Gosododd warchae ar Adrianopolis, ond y tro hwn, bu raid iddo ildio. Trechwyd ei luoedd ym Mrwydr Arcadiopolis yn 970. Enciliodd i Dorostol, lle bu raid iddo cytuno telerau â'r Bysantiaid, gan ymadael â'r Balcanau. Ddaeth yr ymgyrch ddim lles i Svyatoslav nac i Rws, ond gwanhaodd Fwlgaria, gan ei gadael yn agored i ymosodiadau diweddarach y Bysantiaid.

Marwolaeth Svyatoslav golygu

Bradychodd y Bysantiaid y cytundeb yr oedden nhw wedi ei wneud â Svyatoslav, gan annog y Pechenegiaid i ymosod arno ar ei ffordd adre. Cyfarfu'r Pechenegiaid ag ef ger rhaeadrau'r Dnepr ger Ynys Khortytsya yn gynnar yn y flwyddyn 972, gan ei ladd. Yn ôl y Brut Cynradd Rwsieg, dygwyd ei benglog i ffwrdd er mwyn gwneud cwpan i Khan Kurya. Ar ôl ei farwolaeth arweiniodd tensiynau rhwng ei feibion, Oleg, Yaropolk a Vladimir, at ymladd rhyngddynt.