Fe berthyn Swahili i deulu ieithyddol yr ieithoedd Niger-Congo ac is-deulu’r ieithoedd Bantu, gyda geirfa helaeth wedi ei fenthyg o’r Arabeg, a nifer o ieithoedd eraill.

Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Swahili Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Swahili
Enghraifft o'r canlynolmacroiaith, iaith naturiol, iaith fyw Edit this on Wikidata
MathIeithoedd Sabaki, Ieithoedd Bantu Edit this on Wikidata
Enw brodorolKiswahili Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 15,437,390 (2012)[1]
  • cod ISO 639-1sw Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2swa Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3swa Edit this on Wikidata
    GwladwriaethTansanïa, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Cenia, Rwanda, Wganda Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuyr wyddor Ladin, Swahili Ajami Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioBaraza la Kiswahili la Taifa Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Defnyddwyr Swahili golygu

     
    Parth yr iaith Swahili (lliw melyn)

    Mae Swahili yn iaith frodorol i lwythau'r Swahili, sy’n byw ar nifer o’r ynysoedd ger Dwyrain Affrica gan gynnwys Sansibar a Pemba a Mayotte, ac ar arfordir Dwyrain Affrica, o ddeheudir Somalia, trwy Cenia a Tansanïa hyd at ogledd Mosambic. Mae hefyd yn famiaith i lawer sy’n byw yn Nwyrain Affrica nad ydynt o dras Swahili, yn enwedig yn y dinasoedd a’r trefi mawrion amlhiliol. Yn sgil twf diweddar y trefi mae Swahili yn disodli ieithoedd brodorol gwreiddiol y trefi a’r dinasoedd, yn Tansanïa yn enwedig. Mae’r iaith hefyd wedi ymfudo gydag ymfudwyr o Ddwyrain Affrica i bedwar ban byd, gan gynnwys cymunedau yn Oman, yr Emiradau Arabaidd Unedig, De Affrica ac Unol Daleithiau America. Mae'r amcangyfrif o'r rhai sydd â Swahili yn famiaith iddynt yn amrywio o 5 miliwn i 10 miliwn o bobl.

    Siaredir Swahili fel lingua franca yn helaeth trwy Ddwyrain Affrica, yn bennaf yn Tansanïa, Cenia, Wganda, Dwyrain Congo, Rwanda a Bwrwndi. Mae’r amcangyfrif o’r sawl sy’n siarad Swahili fel ail iaith yn amrywio o 45 miliwn hyd at 85 miliwn. Fe addysgir trwy gyfrwng Swahili yn ysgolion cynradd Tansanïa. Fe astudir Swahili mewn nifer o brifysgolion dros y byd. Swahili a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cenia a Tansanïa.

    Datblygiad Swahili golygu

    Dechreuodd Swahili yn iaith frodorol i’r bobl Swahili sy’n byw ar arfordir Dwyrain Affrica. Dilyna datblygiad yr iaith ddatblygiad masnach ar hyd cefnfor India trwy gysylltiadau â masnachwyr o Persia, India, Portiwgal ac yn bennaf Arabia. Rhoi benthyg geiriau i Swahili a wnaeth yr ieithoedd eraill hyn, o'r Arabeg yn bennaf, yn hytrach na dylanwadu ar ei gramadeg. Rhyw 30-40% o eirfa Swahili sydd o dras Arabeg. Credir bod Swahili yn iaith eang ei ddefnydd erbyn ail hanner y pymthegfed ganrif. Ehangai’r defnydd o Swahili ar hyd y ffyrdd masnach a arweiniai o’r arfordir tuag at y gorllewin. Byddai carafannau taith masnach yn cynnwys cannoedd os nad miloedd o borthorion.

    Ysgrifennwyd Swahili yn gyntaf yn yr orgraff Arabaidd. Yn ogystal â chadw cofnodion masnachol a gweinyddol ysgrifennwyd llenyddiaeth yn Swahili, yn enwedig barddoniaeth.

    Datblygodd yr iaith ymhellach o dan ddylanwad gweinyddiaethau Almaenig ac i raddau llai Prydeinig. Hybwyd Swahili gan genhadon Cristnogol y 19g a ddechreuodd ysgrifennu’r iaith yn yr orgraff Rufeinig a chreu geiriaduron a llyfrau gramadeg ar gyfer Swahili. Ludwig Krapf a ysgrifennodd y gramadeg a'r geiriadur cyntaf tua 1848. Cyhoeddwyd y papur newydd cyntaf yn Swahili, Habari ya Mwezi yn 1895 gan genhadon. Erbyn heddiw yr orgraff Rufeinig a ddefnyddir i ysgrifennu Swahili modern. Cafwyd benthyg peth geirfa o'r Almaeneg a llawer yn rhagor o'r Saesneg. Mae Swahili yn dal i fenthyca o'r Saesneg on hyd yn hyn cymharol fychan yw cyfran y geiriau bath newydd o dras Saesneg yn Swahili, o'i gymharu â chyfran y geiriau bath newydd o dras Saesneg yn aml i iaith yn Ewrop.

    Sefyllfa Swahili ac effaith datblygiadau gwleidyddol ers annibyniaeth yn Nwyrain Affrica golygu

    Tansanïa golygu

    Yn ystod yr ymgyrch am annibyniaeth ar dir mawr Tanganica yr oedd defnydd Swahili yn chwarae rhan sylweddol yn uno’r bobl. Oherwydd ei bod eisoes yn lingua franca ni chysidrwyd ei bod hi’n iaith oedd yn perthyn i’r bobl Swahili yn unig nac o’i ddefnyddio yn rhoi mantais i’r llwythau Swahili dros yr oddeutu 120 o lwythau eraill. Wedi i Tanganica ennill ei hannibyniaeth ym 1961 mabwysiadwyd hi’n iaith genedlaethol a pharhawyd i ddefnyddio Swahili yn fodd i uno’r bobl yn un genedl. Ym 1967 mabwysiadwyd polisi o addysgu trwy gyfrwng y Swahili yn ysgolion cynradd Tansanïa. Ar yr un pryd peidiwyd â chefnogi ymdrechion i ysgrifennu rhai o’r ieithoedd brodorol eraill am y tro cyntaf. Ni laciwyd y polisi hwn yn sylweddol tan y 1990’au. Mae Saesneg hefyd yn iaith swyddogol y llywodraeth ond yn Swahili y cynhelir bywyd cyhoeddus ar lafar. Swahili yw iaith y mosgau a'r eglwysi a'r iaith ehangaf ei defnydd ar y cyfryngau.

    Cenia golygu

    Er bod Swahili yn iaith swyddogol yn ogystal â Saesneg, Saesneg yw prif iaith y llywodraeth. Ar y cyfan mae statws Saesneg yn uwch na statws Swahili. Nid yw defnydd yr iaith wedi treiddio’r boblogaeth cystal ag yn Tansanïa, yn rhannol oherwydd mai Saesneg yw cyfrwng addysg Cenia. Serch hynny mae Swahili yn bwnc gorfodol yn ysgolion uwchradd Cenia ers 1986 (nid pawb sy'n derbyn addysg uwchradd yn Nwyrain Affrica) ac fe'i defnyddir gan yr heddlu a'r fyddin. Ceir un papur newydd yn Swahili a rhai rhaglenni radio a theledu. Defnyddir Saesneg yn helaeth gan y cyfryngau a hefyd rhai o ieithoedd brodorol eraill Cenia. Mae'r ffaith bod rhai llwythau niferus o ran canran y boblogaeth (e.e. y Gikuyu a'r Luo) a nifer sylweddol o bobl yng ngogledd gorllewin Cenia yn siarad ieithoedd nad ydynt yn rhan o'r teulu iaith Bantu yn rhwystro'r iaith Swahili rhag treiddio'n rhwydd fel ail iaith cyffredin yn Cenia.

    Wganda golygu

    Er bod Swahili yn lingua franca yn Wganda nid yw wedi bod yn boblogaidd gyda thrwch y boblogaeth. Dywedir bod Swahili yn arfer cael ei gysylltu â’r fasnach caethweision, ag Islam ac â’r lluoedd arfog a'r heddlu adeg gormes y llywodraethau milwrol. Cyn annibyniaeth yr oedd y weinyddiaeth Brydeinig eisoes wedi ceisio defnyddio Swahili yn iaith swyddogol ochr yn ochr â Saesneg, gan ddysgu Swahili yn yr ysgolion i'r diben hwn, ond rhoddwyd y cynlluniau hyn heibio yng ngwyneb gwrthwynebiad pobl y Baganda. Adeg llywodraeth Idi Amin bu Swahili yn iaith swyddogol ac mae statws iaith genedlaethol wedi ei roi i Swahili unwaith eto ers 2005. Mae cynlluniau ar y gweill i ddechrau dysgu Swahili yn bwnc gorfodol yn yr ysgol. Mewn rhai ardaloedd mae Swahili yn iaith masnach bob dydd.

    Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo golygu

    Mae Kiswahili yn un o bedair iaith swyddogol yn y Congo ac yn iaith y fyddin yng ngorllewin y wlad. Roedd Kiswahili wedi cyrraedd dwyrain y Congo gyda'r masnachwyr o Zanzibar ac arfordir Tanganica. Ymledodd ei ddefnydd yn nhalaith Katanga yn y de-ddwyrain pan yr agorwyd mwyn-gloddiau yno ar droad y 19g, gan ddenu gweithwyr o wahanol lwythau at ei gilydd.

    Datblygiadau eraill golygu

    Ymdrechwyd i hybu statws rhyngwladol Swahili trwy nifer o gyrff rhyngwladol, e.e. yr Undeb Affricanaidd a’r Cenhedloedd Unedig, a thrwy astudiaeth o’r iaith mewn prifysgolion ledled y byd. Swahili a ddewiswyd yn iaith y trafodaethau yn uwch gyfarfod yr Undeb Affricanaidd yng Ngorffennaf 2004. Sefydlwyd Sefydliad Ymchwil Swahili ym mhrifysgol Dar Es Salaam. Rhan o waith y sefydliad yw bathu termau Swahili yn rhan o’r ymdrech i gystadlu â’r Saesneg fel iaith safonol y gellid dysgu drwyddi hyd at lefel prifysgol. Mae yn dasg enfawr i ddatblygu digon o adnoddau dysgu i gynnal addysg trwy gyfrwng Swahili ymhob pwnc hyd at lefel prifysgol. Hyd yn hyn trwy’r Saesneg yr addysgir hyd yn oed yn y dosbarthiadau uwch yn yr ysgolion uwchradd yn Tansania.

    Yn Cenia ac yn Tansanïa mae Swahili a Saesneg ill dwy yn ieithoedd swyddogol. Mae tynfa yn bodoli rhwng yr awydd i ddefnyddio iaith Affricanaidd yn hytrach nag iaith imperialaidd gynt fel prif iaith y wlad, a’r awydd i ddefnyddio a dysgu Saesneg er mwyn cystadlu’n well yn economaidd yn y byd.

    Mae nifer o orsafoedd radio rhyngwladol yn cynnal gwasanaethau yn Swahili gan gynnwys Voice of America, y BBC, Deutschewelle, Radio Moscow rhyngwladol, Radio China rhyngwladol, All India Radio, a Radio Iran.

    Tafodieithoedd Swahili golygu

    Mae rhyw 16 tafodiaith yn perthyn i’r Swahili. Dim ond tair o’r rhain, Kiunguja, Amu a Mwita sydd wedi ymledu’n eang. Kiunguja yw tafodiaith tref Sansibar. Dyma’r dafodiaith a ysgrifennwyd fwyaf pan aethpwyd ati i ysgrifennu yn yr orgraff Rufeinig ac erbyn y 1930'au hi a fabwysiadwyd yn sylfaen y geiriaduron a’r gramadegau. Oddi wrthi hi felly y tardd Swahili safonol.

    Ceir tipyn o wahaniaeth rhwng y Swahili safonol a siaredir yn gyffredinol yn Tansania ac yn Cenia. Yn fras mae Swahili Tansania wedi cadw rhai o'r rhag-ddodiaid sydd wedi eu colli yng Nghenia. Ceir hefyd rhai gwahaniaethau mewn geirfa. Yn Nairobi mae tafodiaith Sheng wedi datblygu sy'n gymysgedd o Swahili, Saesneg, Kikuyu a rhai ieithoedd brodorol eraill.

    Sheng golygu

    Ceir hefyd dafodiaith gymharol newydd o'r enw Sheng a darddodd o faestrefi tlawd Nairobi tua'r 1980au. Mae Sheng yn cynnwys geiriau Saesneg a ieithoedd brodorol eraill Cenia, megis Kikuyu.[2]

    Diwylliant Swahili golygu

    Mae traddodiad barddonol Swahili yn un cryf. Yn ogystal â barddoni ar lafar mae cerddi ysgrifenedig Swahili ar gael ers tair canrif. Cred ysgolheigion yr iaith bod rhai o'r llawysgrifau cynharaf i oroesi yn arddangos patrymau iaith cyfnod cynharach o rai canrifoedd. Credant bod traddodiad o ysgrifennu Swahili yn bodoli ers y 13g ond nad oes llawysgrifau wedi goroesi o'r cyfnod cynnar gan fod defnydd ysgrifennu yn dirywio yng ngwres a lleithder a thrychfilod arfordir Dwyrain Affrica. Cerddi maethion yw trwch y cerddi cynharaf. Mae'r gerdd cynnar hwyaf oll yn farwnad i'r proffwyd Mohamed ac yn 45,000 llinell o hyd. Mae barddoni yn dal i ffynnu mewn papurau newydd ac ar y radio yn Cenia a Tansanïa. Un o’r beirdd Swahili modern enwocaf yw Robert Shaaban (1902-1962) a oedd hefyd yn awdur ysgrifau. Mae llenyddiaeth modern Swahili yn cynnwys storïau a nofelau a llyfrau chwedlau, gan gynnwys cyfieithiadau i'r Swahili o chwedlau brodorol Dwyrain Affrica'n gyffredinol.

    Un o’r caneuon Swahili mwyaf adnabyddus tu allan i Ddwyrain Affrica yw ‘Malaika’ o Cenia, yn arbennig yn y fersiwn a recordiwyd gan Miriam Makeba.

    Yn ogystal â cherddi (ushairi) ceir yn Swahili drysorfa helaeth o ddiarhebion (methali), dywediadau (misemo), damhegion (mafumbo) a phosau (vitendawili). Mae’n arfer i gyfansoddi penillion i ddathlu achlysur arbennig. Yn aml caiff cyfres o gerddi moliant (mashairi) eu datgan mewn dathliad, a pharti yn datgan y cerddi ar lafar neu ar gân, a phob un yn datgan pennill yn ei dro, gyda chytgan i’w adrodd gan bawb.

    Mae Swahili wedi cael benthyg llawer iawn o eiriau o ieithoedd eraill ac mae wedi talu’r pwyth yn ôl trwy roi benthyg ambell air i ieithoedd eraill. Mae geiriau benthyg ac ymadroddion cyfarwydd o’r Swahili yn cynnwys:

    • Safari: 'taith' ond yn golygu taith ymweld ag anifeiliaid yn y gwyllt yn Saesneg a Chymraeg.
    • Hakuna matata: ‘dim problem’ o Swahili Cenia – dywediad cyfarwydd o’r ffilm The Lion King.
    • Uhuru: 'rhyddid' a ddefnyddid yn arwyddair y mudiadau gwrth-imperialaeth a gwrth-apartheid.

    Ynganiad Swahili golygu

    Daw’r pwyslais ar eiriau Swahili ar y sill cyn yr olaf (fel yn Gymraeg), heblaw am eithriadau ar gyfer rhai geiriau benthyg o’r Arabeg ac ieithoedd eraill. Gan amlaf, os gwelwch ddwy lafariad wedi eu hysgrifennu un ar ôl y llall maent yn cyfrif fel dwy sill. Felly yn y gair kioo (drych) ceir 3 sill ac mae pwyslais y gair ar yr o gyntaf. Mae m o flaen cytsain arall ar ddechrau gair weithiau yn sill wrth ei hunan.

    Ysgrifennir Swahili yn ôl y sain. Yngenir y cytseiniaid yn ddigon tebyg i’r un cytseiniaid yn Saesneg heblaw am r sy’n debycach i r Gymraeg. Mae w ac y yn gytseiniaid yn Swahili. Yngenir ng yn ng-g. Yngenir ng’ rhywbeth yn debyg i ng Gymraeg, e.e. ng’ombe (buwch). Yngenir dh fel dd Gymraeg. Yngenir gh rhywle rhwng ch Gymraeg a sŵn garglio.

    Yngenir llafariaid Swahili (a, e, i, o, u) yn ddigon tebyg i lafariaid y Gymraeg heblaw bod u yn cael ei ynganu fel w Gymraeg. Mae’r llafariaid fel arfer yn weddol fyr ond bod u ryw hanner ffordd rhwng yr w yn y gair 'twr' a’r gair 'tŵr' yn Gymraeg. Pan dyblir llafariaid maent yn hir.

    Yr wyddor Swahili:

    a, b, ch, d, e, f, g, h, i, j, k, l, m, n, o, p, r, s, t, u, v, w, y, z

    Iaith gyflynol golygu

    Mae ieithoedd cyflynol yn adeiladu geiriau cyfansawdd trwy ychwanegu rhag- ac ôlddodiaid at gnewyllyn gair. Ceir nifer fawr o ragddodiaid yn Swahili, o flaen berfau, enwau ac ansoddeiriau. Er enghraifft, Ki- yw’r rhagddodiad mewn nifer o ieithoedd Bantu sy’n dynodi, ymhlith pethau eraill, iaith. M- yw’r rhagddodiad sy’n dynodi person neu anifail. U- yw’r rhagddodiad sy’n dynodi tir neu enw haniaethol. Felly:

    • Kiswahili: 'Swahili' (yr iaith)
    • Mswahili:person o lwyth y Swahili, neu berson sy’n siarad Swahili (hefyd person ffraeth neu dwyllwr!)
    • Uswahili:rhan o arfordir Tansanïa, neu'r cyflwr meddwl o fod yn berson Swahili.

    Nid yw ‘Swahili’ yn air sy’n bod ar ei ben ei hun o gwbl. Gyda llaw, mae’r cnewyllyn -swahili yn dod o’r Arabeg As-Sawahili sydd yn golygu rhywbeth yn debyg i ‘drigolion yr arfordir’.

    Fe allwch gael hyd at 3 rhagddodiad cyn cnewyllyn berf yn Swahili. Oherwydd hyn mae darganfod gair mewn geiriadur Swahili yn gallu creu cryn benbleth i ddysgwyr.

    Cyfeirnodion ar y we golygu

    Prif ffynonellau golygu

    • Modern Swahili Grammar (2001) gan M.A. Mohammed (East African Educational Publishers)
    • Kiswahili - yn Swahili
    1. (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas, Texas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/
    2. https://www.anthro.ox.ac.uk/sites/default/files/anthro/documents/media/jaso18_2_1987_125_136.pdf