Adeilad lle derbynnir eitemau fel llythyrau a pharseli i'w postio yw swyddfa bost neu llythyrdy. Enw'r cwmni yng ngwledydd Prydain sy'n gyfrifol am y swyddfeydd post yw Swyddfa'r Post, lle mae 'Post' yn sefyll am y Post Brenhinol. Gwerthir stampiau yno a chynigir ystod o wasanaethau eraill fel arfer yn ogystal.

Swyddfa bost, Pen-y-waun, ger Aberdâr yng Nghwm Cynon, Rhondda Cynon Taf

Gwledydd Prydain golygu

Erbyn hyn mae swyddfeydd post yng ngwledydd Prydain yn gwerthu sawl peth arall yn ogystal â stampiau. Gellir talu am sawl gwasanaeth swyddogol, e.e. trwydded deledu, a chael ffurflenni swyddogol o bob math. Mae pensiynwyr yn gallu hel eu pensiynau yno hefyd. Yn aml gwerthir cardiau post, deunydd sgwennu, amlenni a chardiau penblwydd ac ati. Mae nifer o swyddfeydd post llai - yr is-swyddfeydd post - yn siopau hefyd lle gwerthir ystod o nwyddau.

Yn ddiweddar mae dyfodol y swyddfa bost leol dan fygythiad wrth i'r Post Brenhinol gwtogi'n sylweddol ar eu niferoedd. Mae hyn yn bwnc llosg yng Nghymru am mai'r swyddfa bost yw'r unig siop a chanolfan i gymunedau gwledig bychain yn aml erbyn hyn ac mae ei cholli yn cael ei weld fel dirywiad sylweddol ym mywyd pentrefol, yn debyg i gau ysgol leol.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am bost neu stampiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.