Sydney Pollack

cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Lafayette yn 1934

Roedd Sydney Irwin Pollack (1 Gorffennaf 193426 Mai 2008) yn gyfarwyddwr, cynhyrchydd ac actor ffilmiau Americanaidd. Cafodd ei eni yn Lafayette, Indiana i fewnfudwyr Rwsiaidd-Iddewig. Astudiodd gyda Sanford Meisner yn y Neighborhood Playhouse yn Ninas Efrog Newydd, lle dysgodd actio yn ddiweddarach. Dechreuodd gyfarwyddo rhaglenni teledu yn ystod y 1960au cyn iddo symud ymlaen i gyfarwyddo ffilmiau.

Sydney Pollack
GanwydSydney Irwin Pollack Edit this on Wikidata
1 Gorffennaf 1934 Edit this on Wikidata
Lafayette, Indiana Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mai 2008 Edit this on Wikidata
Pacific Palisades, Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Neighborhood Playhouse School of the Theatre
  • Stella Adler Studio of Acting Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynhyrchydd ffilm, actor, actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr ffilm, hedfanwr, actor cymeriad, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes Edit this on Wikidata
PlantRachel Pollack Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Golden Globe am y Ffilm Orau - Drama, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Berlinale Camera, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, Gwobr Primetime Emmy am Gyfarwyddo Cyfres Ddrama Edit this on Wikidata

Cyfarwyddodd Pollack dros 21 o ffilmiau a 10 rhaglen deledu ac actiodd mewn dros 30 ffilm neu sioe. Cynhyrchodd dros 44 ffilm. Mae rhai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys Jeremiah Johnson (1972), The Way We Were (1973), Three Days of the Condor (1975) a Absence of Malice (1981). Enillodd ei ffilm Out of Africa (1985) Wobr yr Academi iddo am ei waith cyfarwyddo a chynhyrchu. Fe'i enwebwyd am Oscar hefyd am y Cyfarwyddwr Gorau yn They Shoot Horses, Don't They? a Tootsie. Roedd ei ffilmiau mwyaf diweddar yn cynnwys Havana (1990), The Firm (1993), Sabrina (1995) a The Interpreter (2005).

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.