Sylvia Plath

bardd ac awdur Americanaidd (1932-1963)

Bardd, nofelydd ac ysgrifennydd straeon byrion o'r Unol Daleithiau oedd Sylvia Plath (27 Hydref 193211 Chwefror 1963). Fe'i ganwyd yn Boston, Massachusetts, ac astudiodd yng Ngholeg Smith a Choleg Newnham, Caergrawnt cyn derbyn cydnabyddiaeth fel bardd a llenor proffesiynol.

Sylvia Plath
FfugenwVictoria Lucas Edit this on Wikidata
Ganwyd27 Hydref 1932 Edit this on Wikidata
Boston Edit this on Wikidata
Bu farw11 Chwefror 1963 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, nofelydd, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, dyddiadurwr, awdur plant Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Smith, Massachusetts Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Bell Jar, Ariel, The Colossus Edit this on Wikidata
Arddullconfessional poetry Edit this on Wikidata
TadOtto Plath Edit this on Wikidata
MamAurelia Plath Edit this on Wikidata
PriodTed Hughes Edit this on Wikidata
PlantFrieda Hughes, Nicholas Hughes Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Pulitzer am Farddoniaeth, Glascock Prize, Ysgoloriaethau Fulbright Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://sylviaplath.info Edit this on Wikidata
llofnod

Priododd y bardd Ted Hughes, yn 1956 a bu'r ddau'n byw yn yr Unol Daleithiau i ddechrau ac yna yn Lloegr. Cawsant ddau o blant gyda'i gilydd, Frieda a Nicholas. Dioddefai Plath o iselder am gyfnodau helaeth o'i bywyd fel oedolyn[1] ac yn 1963 cymerodd ei bywyd ei hun.[2] Mae ei bywyd a'i marwolaeth, ynghyd â'i hysgrifennu a'i dylanwad yn parhau i fod yn ddadleuol

Cydnabyddir Plath am ddatblygu genre o farddoniaeth gyffesol ac mae hi fwyaf enwog am ei dwy gyfrol gyhoeddedig, The Colossus and Other Poems ac Ariel. Yn 1982, enillodd Wobr Pulitzer ar ôl ei marwolaeth, am The Collected Poems. Roedd hi hefyd wedi ysgrifennu The Bell Jar, nofel rhannol-hunangofiannol a gyhoeddwyd ychydig cyn ei marwolaeth.[3]

Llyfryddiaeth golygu

Barddoniaeth golygu

Rhyddiaith golygu

Plant golygu

  • The Bed Book (1976)
  • The It-Doesn't-Matter-Suit (1996)
  • Collected Children's Stories (UK, 2001)
  • Mrs. Cherry's Kitchen (2001)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Sylvia Plath and the depression continuum" gan Brian Cooper, MD o ncbi.nlm.nih.gov
  2. Becker. (2003)
  3. The Bell Jar. Harper Perennial Classics Edition. ISBN 0-06-093018-7 p xii. Cyflwyniad gan Frances McCullough