Symbolau Olympaidd

Eiconau, baneri a symbylau yw'r Symbolau Olympaidd sy'n cael eu defnyddio gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol i hybu'r Gemau Olympaidd. Mae rhai, megis y fflam, ffanfer a thema, yn fwy cyffredin yn ystod y cystadlaethau, ond gellir gweld eraill megis y faner, drwy gydol y flwyddyn.

Symbolau Olympaidd
Mathsymbol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysOlympic rings, Olympic torch relay, Olympic Hymn, Olympic Oath Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Arwyddair golygu

Yr arwyddair Olympaidd yw Citius, Altius, Fortius, sy'n Lladin am "Cyflymach, Uwch, Cryfach". Cynigwyd yr arwyddair gan Pierre de Coubertin ar greadigaeth y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol yn 1894. Benthycodd De Coubertin ef gan ei ffrind Henri Didon, offeiriad Dominicaidd a oedd yn frwdfrydig am athletau. Cyflwynwyd yr arwyddair yn 1924 yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.[1]

Roedd yr arwyddair hefyd yn deitl i gylchgrawn olympaidd rhwng 1992 a 1997, cyn iddo gael ei ail-enwi yn Journal of Olympic History.

Arwyddair llai swyddogol, ond yn fwy adnabyddus a gyflwynwyd gan De Coubertin, yw "Y peth pwysicaf yw, nid i ennill, ond i gymryd rhan". Fa gafodd De Coubertin yr arwyddair hon o bregeth gan Esgob Pennsylvania, yn ystod Gemau Olympaidd 1908 yn Llundain.

Arwyddlun golygu

 
Y pum cylch Olympaidd

Mae'r arwyddlun Olympaidd wedi ei gyfansoddi o bum cylch sy'n cyd-gloi (glas, melyn, du, gwyrdd a choch) ar gefndir gwyn. Dyluniwyd yn wreiddiol yn 1913 gan Barwn Pierre de Coubertin, sefydlwr y Gemau Olympaidd Modern. Ar ei gyflwyniad, yn rhifyn Awst 1913 o Revue Olympique dywedodd de Coubertin:

Dewiswyd yr arwyddlun i ddarlunio a chynrychioli Cyngres byd 1914 ...: rhoi'r pum clych sy'n cyd-gloi mewn lliwiau gwahanol - glas, melyn, du, gwyrdd, coch - ar gefndir gwyn y papur. Mae'r pum cylch yn cynrychioli y pum rhan o'r byd sydd wedi eu ennill drosodd i Olympiaeth ac yn barod i dderbyn cystadleuaeth iach.

Yn ei erthygl a'i gyhoeddwyd yn yr "Olympic Revue", cylchgrawn swyddogol y PRhO, ym mis Tachwedd 1992, esboniodd y hanesydd Americanaidd, Robert Barney, y daeth y syniad o'r cylchoedd yn cyd-gloi i Pierre de Coubertin pan oedd ef yn rheoli'r USFSA (Union des sociétés françaises de sports athlétiques) undeb a'i sefydlwyd gan dau gymdeithas chwaraeon Ffrengig, a hyd 1925, oedd yn gyfrifol am gynrychioli'r PRhO yn Ffrainc. Arwyddlun y gymdeithas oedd dau gylch yn cyd-gloi (fel y modrwyau priodas traddodiadol vesica piscis), syniad seiciatrydd o'r Swistir oedd ef yn wreiddiol, Carl Jung, iddo ef, roedd y cylchoedd yn golygu cysondeb a bod dynol.[2]

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Baner golygu

Mae'r arwyddlun, sef yr un cylch yn ymddangos ar y faner Olympaidd: "The Olympic flag [...] has a white background, with five interlaced rings in the centre : blue, yellow, black, green and red [...] This design is symbolic ; it represents the five continents of the world, united by Olympism, while the six colors are those that appear on all the national flags of the world at the present time." (1931) [3]

Defnydd y Faner golygu

Codir y faner Olympaidd yn ystod seremonïau agoriadol pob un o'r Gemau Olympaidd, a gostyngir hi yn ystod y seremoni cau. Defnyddir ail faner ar gyfer y Llw Olympaidd. Cedwir baneri arbennig yn neuaddau dinesig y trefi sy'n trefnu'r Gemau Olympaidd, ac ar ddiwedd y Gemau rheiny, mae Maer y Dref a drefnodd y gemau'n dychwelyd y faner i lywydd y PRhO, sydd yn ei dro'n pasio'r faner ymlaen i faer y ddinas nesaf fydd yn trefnu'r gemau. Adnabyddir yr arfer hwn fel "Seremoni Antwerp", gan mai dyna ble ddechreuodd yr arfer. Mae tri baner ar gyfer y pwrpas, ac yn wahanol i'r faner arferol gan fod ganddi rhidens pum-lliw, ac wedi eu clymu i bolyn y faner gan bum rhuban yr un lliwiau a phum lliw y cylchoedd.

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Masgotiaid golygu

Ers Gemau Olympaidd y Gaeaf 1968 yn Grenoble, Ffrainc mae'r Gemau Olympaidd wedi cael masgot gwahanol ar gyfer pob un o'r gemau, fel arfer anifail sy'n frodorol i'r ardal, neu weithiau, ffigyrau dynol sy'n cynrychioli'r hanes diwylliannol. Y magcot cyntaf o bwys oedd Misha yng Ngemau Olympaidd 1980 yn Moscow. Defnyddiwyd Misha yn helaeth yn ystod y seremonïau agoriadol a chau'r gemau, ac roedd cymeriad cartŵn wedi ei animeiddio ar y teledu ac ymddangosodd ar nifer o nwyddau yn hybu'r gemau. Heddiw, aneli'r y rhan fwyaf o'r nwyddau tuag at bobl ifanc, felly defnyddir masgot, yn hytrach na'r faner Olympaidd neu logos y cymdeithasau.

Rhestr masgotiaid golygu

Dyluniwyd gan Javier Mariscal
Dyluniwyd gan Spyros Gogos
Darluniwyd gan Pedro Albuquerque

Cyfeiriadau golygu