Llid ar y cartilagau costocondral sy'n cysylltu'r asennau ag asgwrn y fron yw syndrom Tietze.[1]

Syndrom Tietze
Dosbarthiad ac adnoddau allanol

Blaenolwg o'r cartilagau costocondral ar yr asennau (o Gray's Anatomy)
ICD-10 M94.0
ICD-9 733.6
DiseasesDB 13112
MeSH [1]

Symptomau golygu

Mae symptomau syndrom Tietze yn cynnwys poen, chwyddo a thynerwch. Er bod y poen fel arfer yn diflannu'n ddigymell, mae'n bosib i'r chwyddo barháu ar ôl i'r tynerwch ddiflannu. Mae'r poen yn gwaethygu drwy symud, peswch, neu disian.[1]

Mae'n bosib camgymryd y poen am drawiad ar y galon, gan ei fod ar flaen mur y frest.[1]

Achosion golygu

Mae achos syndrom Tietze yn anhysbys.[1]

Triniaeth golygu

Defnyddir poenliniarwyr megis ibwproffen a pharasetamol i drin syndrom Tietze.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4  Syndrom Tietze: Diffiniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 6 Tachwedd, 2009.