Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig

gwleidydd (1749-1789)

Gwleidydd Cymreig oedd Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig (23 Medi 174924 Gorffennaf 1789).

Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig
Llun o Syr Watkin a'i fam gan Sir Joshua Reynolds, ca. 1768.
Ganwyd23 Medi 1749 Edit this on Wikidata
Bu farw24 Gorffennaf 1789, 29 Gorffennaf 1789 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 13eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
TadSyr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwnig Edit this on Wikidata
MamFrances Shakerley Edit this on Wikidata
PriodCharlotte Williams-Wynn, Henrietta Somerset Edit this on Wikidata
PlantCharlotte Williams-Wynn, Henrietta Elizabeth Williams-Wynn, Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig, Charles Watkin Williams-Wynn, Henry Watkins Williams-Wynn, Frances Williams Wynn Edit this on Wikidata
LlinachTeulu Wynniaid, Rhiwabon Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Mab hynaf o ail briodas Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwing i Frances Shackerley o Sir Gaer oedd Syr Watkin. Roedd dal yn faban pan laddwyd ei dad wrth ddisgyn oddi ar ei geffyl tra'n hela, ac etifeddodd ystadau helaeth Wynnstay. Wrth ddod i oedran yn 1770, cynhaliodd barti afradlon gyda 15,000 o westeion. Mae siwt frodiog, y gall ei fod wedi ei wisgo ar y pryd, yn Amgueddfa Cymru.[1]

Roedd yn aelod seneddol dros Swydd Amwythig rhwng 1772 a 1774, a thros Sir Ddinbych rhwng 1774 a 1789. Ef oedd Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd o 1775-1789. Roedd yn noddwr pwysig y celfeddydau, ac roedd George Frideric Handel y cyfansoddwr, a David Garrick y chwareuydd ymysg ei ffrindiau. Noddodd y telynor John Parry Ddall hefyd, a ddaeth yn fath o delynor teuluol yn Wynnstay.

Priododd ddwywaith, i Henrietta Somerset yn gyntaf, a fu farw'n fuan wedyn, ac i Charlotte Grenville, merch yr anrhydeddus George Grenville, ym mis Rhagfyr 1771. Fe gafodd dri mab a dwy ferch o'i ail briodas. Fe baentiodd Syr Joshua Reynolds bortread ohono gyda'i ail wraig mewn gwisg theatrig, ac un arall o'i wraig a'i blant, tua 1778.

Sefydlodd ddwy ysgol ym mhlwyf Rhiwabon a chyfrannodd yn hael at Ysgol Gymraeg Llundain. Williams-Wynn oedd ail 'Benllywydd' Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.[2] Ychwanegwyd at diroedd Wynnstay yn 1752, pan brynwyd stadau Mathafarn (gan gynnwys maenor Cyfeiliog) a Rhiwsaeson ar ei ran gan ei fam.[3]

Cyfeiriadau golygu

Senedd Prydain Fawr
Rhagflaenydd:
Richard Lyster a
Charles Baldwyn
Aelod seneddol Swydd Amwythig
1772–1774
Olynydd:
Noel Hill a
Charles Baldwyn
Rhagflaenydd:
Syr Lynch Cotton
Aelod seneddol Sir Ddinbych
1774-1789
Olynydd:
Robert Watkin Wynne
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
William Vaughan
Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd
1775-1789
Olynydd:
Watkin Williams
Barwnigion Lloegr
Rhagflaenydd:
Watkin Williams-Wynn
Barwnig
1749–1789
Olynydd:
Watkin Williams-Wynn