System Ryngwladol o Unedau

Ffurf fodern y system fetrig o fesur ydy'r System Rhyngwladol o Unedau (Ffrangeg: Le Système international d'unités; Saesneg: International System of Units)[1] sydd wedi eu seilio ar saith uned sylfaenol o fesur ac ar hwylustod y rhif deg (10).

System Ryngwladol o Unedau
Enghraifft o'r canlynolinternational standard, safon technegol, coherent system of units, System fetrig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyma system fesur mwyaf poblogaidd o'i fath yn y byd, boed mewn diwydiant, addysg, neu wyddoniaeth.[2] Ceir, hefyd, unedau ychwanegol at yr Unedau SI‎ a dderbynir ar y cyd â rhestr yr SI.

Cedwir cyflwyniad swyddogol o'r System ar wefan NIST, gan gynnwys diagram o gydberthynas yr unedau â'i gilydd. Nodir isod rhai o'r unedau sylfaenol a cheir rhestr lawn mewn adroddiad (CODATA) am eraill gan restru rhai sefydlog, megis cyflymder golau.

Y Saith Uned Sylfaenol golygu

Mae'r system unedau yma'n dosbarthu'r holl feusiadau i saith prif ddosbarth ac yn rhestru set o ragddodiaid i'w rhoi o flaen yr enwau. Mae pob un o'r unedau sylfaenol sy'n dilyn yn fathau gwahanol o fesurynnau; allan o'r saith yma y daw pob uned dilynol.

Y Saith Uned Sylfaenol SI[3][4]
Enw Symbol yr Uned Yr hyn a fesurir Symbol
metr m hyd l (llythyren fach)
cilogram kg màs m
eiliad s amser t
amper A cerrynt trydanol I (i: llythyren fawr)
kelvin K tymheredd T
candela cd cryfder golau Iv (i fawr gyda thanysgrifiad v)
môl mole maint o ddefnydd n

Rhagddodiaid golygu

Gweler hefyd yr erthygl lawn ar ragddodiad SI.

Rhagddodiaid a safonwyd i'w rhoi o flaen yr Unedau
Lluoswm Enw deca- hecto- kilo- mega- giga- tera- peta- exa- zetta- yotta-
Symbol da h k M G T P E Z Y
Ffactor 100 101 102 103 106 109 1012 1015 1018 1021 1024
 
Isddosbarthiad Enw deci- centi- milli- micro- nano- pico- femto- atto- zepto- yocto-
Symbol d c m μ n p f a z y
Ffactor 100 10−1 10−2 10−3 10−6 10−9 10−12 10−15 10−18 10−21 10−24

Rhai Unedau SI ar gyfer Ffiseg golygu

Y Wyddor Ffiseg
Yr hyn a gaiff ei fesur Y gair Saesneg Symbol Uned Safonol Fformiwla
Gwahaniaeth potensial Potential difference V folt, V V = I.R
Cerrynt Current I amper, A I = V/R
Gwrthiant trydanol electric resistance R ohm, Ω R = V/I
Anwythiant trydanol electric inductance L henry, H H = Ώ.s
Cynhwysiant trydanol electric capacitance C ffarad, F F = s/Ώ
Gwefr Charge Q coulomb, C Q = I.t
Ymbelydredd a Dadfeilio ymbelydrol‎ Radioactivity a Radioactive decay Bq becquerel 1/s neu A= -λN
Pwer Power P wat, W P = V.I neu P = I2.R
Egni Energy E joule, J E = Q.V neu V = E/Q
Amser Time t Eiliad, s E = F.l neu P.t
Grym Force F newton, N F = m.a
Màs Mass m cilogram, kg F = m.a
Pwysau (grym) Weight neu force W newton, N W = m.g
Dwysedd Density D kg/m3, kg/m3 D = m/V
Moment Moment of force neu torque M newton-metr, Nm IM = F.l
Cyflymder a Buanedd Speed neu velocity v metr/eiliad, m/s v = p/t
Cyflymiad Acceleration a metr/eiliad2, m/s2 a = Δv/t neu a = F/m
Gwasgedd Pressure P pascal, Pa (N/m2) P = F/A
Arwynebedd Area A metr2, m2 A=s2 (s = hyd yr ochr)
Cyfaint Volume V metr3, m3 A=s3 (s = hyd yr ochr)
Amledd Frequency f neu ν (ν = nu Groeg) hertz, Hz f = 1/t (t = cyfnod o amser)
Tonfedd Wavelength λ metr, m v = ν.λ (fformiwla ton)
Gwaith a wneir Work neu heat Wd joule, J Wd = F.d
Egni potensial Potential energy EP joule, J EP = m.g.Δh (h = uchder)
Egni cinetig Kinetic energy EC joule, J EC= ½ m.v2

Cyfeiriadau golygu

  1. Bureau International des Poids et Mesures
  2. Official BIPM definitions
  3. Barry N. Taylor & Ambler Thompson Ed. The International System of Units (SI) [1][dolen marw] Adalwyd: Mehefin 2008; cyhoeddwr: National Institute of Standards and Technology, Gaithersburg, 2008
  4. Quantities Units and Symbols in Physical Chemistry, IUPAC