Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Eidal

Tîm pêl-droed Cenedlaethol yr Eidal (Eidaleg: Nazionale italiana di calcio) yw enw'r tîm sy'n cynrychioli yr Eidal mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Pêl-droed yr Eidal (Federazione Italiana Giuoco Calcio), corff llywodraethol y gamp yn yr Eidal. Mae'r FIGC yn aelod o gonffederasiwn pêl-droed Ewrop (UEFA).

Yr Eidal
Bathodyn y Crys/Arfbais y Gymdeithas
Llysenw Squadra Azzurra, Azzurri
Cymdeithas Cymdeithas Pêl-droed yr Eidal
Conffederasiwn UEFA
Prif Hyfforddwr Gian Piero Ventura
Capten Gianluigi Buffon
Mwyaf o Gapiau Gianluigi Buffon (171)
Prif sgoriwr Luigi Riva (35)
Stadiwm cartref amrywiol
Cod FIFA ITA
Safle FIFA 5
Gêm ryngwladol gyntaf
Baner Yr Eidal Yr Eidal 7–2 Ffrainc Baner Ffrainc
(Milan, Yr Eidal; 15 Mai 1910)
Buddugoliaeth fwyaf
Yr Eidal Yr Eidal 13-0 Unol Daleithiau Baner Unol Daleithiau America
(Brentford, Lloegr; 2 Awst 1948)
Colled fwyaf
Baner Hwngari Hwngari 5-1 Yr Eidal Baner Yr Eidal
(Budapest, Hwngari; 6 Ebrill 1924)
Cwpan y Byd
Ymddangosiadau 17 (Cyntaf yn 1934)
Canlyniad Gorau Enillwyr, 1934, 1938, 1982, 2006
Pencampwriaeth Ewrop
Ymddangosiadau 7 (Cyntaf yn 1968)
Canlyniad Gorau Enillwyr, 1968


Diweddarwyd 26 Gorffennaf 2010.

Mae'r Azzurri (y gleision) wedi ennill Cwpan y Byd ar bedair achlysur, ym 1934 pan cynhaliwyd y bencampwriaeth ar eu tomen eu hunain, ac eto ym 1938 yn Ffrainc, 1982 yn Sbaen 2006 yn yr Almaen. Maent wedi ennill y gwpan mwy nag unrhyw wlad arall heblaw am Brasil, sydd wedi ei hennill bum gwaith. Roedd eu perfformiad yng Nghwpan y Byd 2010 yn siomedig; ni lwyddasant i fynd trwodd o'r rownd grwpiau.

Mae'r Eidal wedi ennill Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop ar un achlysur a hynny ym 1968 ar eu tomen eu hunain, a hefyd wedi cipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd Berlin 1936.

Chwaraewyr enwog golygu

 
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.