Tŵr mawr haearn yng nghanol Paris yw Tŵr Eiffel (Ffrangeg tour Eiffel /tuʀ ɛfɛl/). Saif ar y Champs de Mars ar lan Afon Seine. Cwblhawyd y tŵr yn 1889 yn ôl dyluniad gan y peiriannydd Gustave Eiffel. Pan gafodd ei adeiladu, Tŵr Eiffel oedd y strwythur uchaf yn y byd. Arhosodd felly tan 1930, pan adeiladwyd Adeilad Chrysler yn Efrog Newydd. Mae'n enwog heddiw fel delwedd symbolaidd o Baris ac o Ffrainc yn rhyngwladol.

Tŵr Eiffel
Mathtŵr dellt, tŵr gwylio, atyniad twristaidd, landmark Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGustave Eiffel Edit this on Wikidata
Tour Eiffel Pronunciation.ogg, LL-Q34239 (kok)-Fredericknoronha-Eiffel Tower.wav Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol31 Mawrth 1889, 15 Mai 1889 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 28 Ionawr 1887
  • 31 Mawrth 1889 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolbanks of the Seine Edit this on Wikidata
LleoliadChamp de Mars Edit this on Wikidata
Sir7fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau48.858296°N 2.294479°E Edit this on Wikidata
Cod post75007 Edit this on Wikidata
Rheolir ganSociété d'exploitation de la tour Eiffel Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethLlywodraeth Ffrainc, bwrdeistref Paris Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
DeunyddHaearn gyr, dur, puddled iron Edit this on Wikidata
Tŵr Eiffel

Uchder gwreiddiol y tŵr oedd 312 metr, ond gan gynnwys y mast radio ar ei ben mae'n 324 metr (7 metr yn dalach na Pholyn Nebo, y strwythur uchaf yng Nghymru). Erbyn hyn, mae strwythur uwch i'w gael yn Ffrainc, polyn radio y llynges ger Rosnay sydd 357 metr o uchder. Gan mai mast yw tŵr Eiffel, yn hytrach nag adeilad fel y cyfryw, nid yw fel arfer yn ymddangos ar restrau o'r adeiladau uchaf yn y byd. Er enghraifft, yr entrychdy uchaf yn Ffrainc (ers 2011) yw Tour First yn ardal La Défense yn Courbevoie ar gyrion Paris, sydd 231 metr o uchder yn unig.