Tŷ Drybridge, Trefynwy

adeilad yn Nhrefynwy

Mae Tŷ Drybridge, Trefynwy yn adeilad o'r 17g wedi'i leoli yn Nhrefynwy, Sir Fynwy ac sydd wedi'i gofrestru gan CADW fel adeilad Gradd II*. Mae wedi'i leoli yng ngogledd-orllewin y dref, yn agos at "bont sych" dros nant fechan, sydd bellach dan gylchfan y ffordd. Mae'n un o 24 adeilad ar Lwybr Treftadaeth Trefynwy.

Tŷ Drybridge
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1671 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr17 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.809497°N 2.7233°W, 51.8095°N 2.7231°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Yn 1558 y codwyd y tŷ gwreiddiol: ffermdy du a gwyn, o bosib; codwyd y tŷ presennol yn 1671 gan William Roberts o Fynwy a oedd yn "Receiver and Paymaster of the King's Works" yng Nghastell Windsor. Un o'i ddisgynyddion Charles Henry Crompton-Roberts a atgyweiriodd y tŷ yn 1867; roedd yn Uwch Siryf Sir Fynwy yn 1877.[1]

Bu'r lle yn nwylo teulu Crompton-Roberts am 400 mlynedd, teulu a fu'n gefnogol iawn i'r dref.

Yr adeiladau golygu

  1. Tŷ Drybridge House
  2. Eglwys Sant Tomos y Merthyr, Trefynwy
  3. Pont Trefynwy
  4. Gwesty Robin Hood, Trefynwy
  5. Caer Rhufeinig Blestiwm
  6. Gwesty'r Kings Head Hotel, Trefynwy
  7. Neuadd y Sir, Trefynwy
  8. Great Castle House, Trefynwy
  9. Neuadd y Farchnad, Trefynwy
  10. Priordy Trefynwy
  11. Priordy Eglwys y Santes Fair, Trefynwy
  12. Carchar Trefynwy
  13. Neuadd Rolls, Trefynwy
  14. Tŷ'r Barnwrr
  15. Y Fferyllfa, Trefynwy
  16. Capel Methodistaidd Trefynwy
  17. Eglwys Gatholig Santes Fair, Trefynwy
  18. Gwesty’r Angel, Trefynwy
  19. Theatr y Savoy
  20. Tafarn yr Alarch Wen, Trefynwy
  21. Agincourt House, Trefynwy
  22. Gwesty The Beaufort Arms, Trefynwy
  23. Gwaith Dŵr Potel Hyam
  24. Gerddi Nelson

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [Cofnodion gan William Gardner, Trefynwy. Cyfarwyddiadau gan Frederick Pring Robjent, Sheriff 1937. Mai 1937 (Mai 1937). Cofnodion: "Sheriffs of Monmouthshire 1547 – 1937".]