Taith Nixon i Tsieina

Cam bwysig wrth normaleiddio cysylltiadau rhwng yr Unol Daleithiau a Gweriniaeth Pobl Tsieina oedd taith yr Arlywydd Richard Nixon i Tsieina ym 1972. Hwn oedd y tro cyntaf i Arlywydd yr Unol Daleithiau ymweld â Gweriniaeth Pobl Tsieina, oedd ar y pryd yn gweld yr Unol Daleithiau yn elyn mawr, a dechreuodd proses o nesâd rhwng y ddwy wlad. Digwyddodd hyn yng nghanol y Rhyfel Oer, ar yr un adeg â'r détente rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd.

Taith Nixon i Tsieina
Mao Zedong a Richard Nixon yn ysgwyd llaw yn Beijing.
Enghraifft o'r canlynolstate visit Edit this on Wikidata
Dyddiad1972 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd21 Chwefror 1972 Edit this on Wikidata
Daeth i ben28 Chwefror 1972 Edit this on Wikidata
RhanbarthGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cynlluniodd Henry Kissinger, Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, y daith ym mis Gorffennaf 1971 yn ystod taith gudd i Beijing. O 21 hyd 28 Chwefror 1972, ymwelodd Nixon â dinasoedd Beijing, Hangzhou, a Shanghai. Cyfarfu â'r Cadeirydd Mao, a ddywedodd iddo, "Nid oes da gan ein hen gyfaill cyffredin, y Generalissimo Chiang Kai-Shek, o hyn."[1] Bu nifer o gyfarfodydd rhwng Nixon a'r Prif Weinidog Zhou Enlai, gan gynnwys taith i Fur Mawr Tsieina.

I gloi'r daith, cyhoeddodd y ddwy lywodraeth Datganiad Shaghai gan osod seiliau'r cysylltiadau newydd rhwng eu gwledydd. Cytunwyd i osod yr anghydfod ar statws Taiwan i un ochr er mwyn normaleiddio diplomyddiaeth a chaniatau masnach rhyngddynt. Parhaodd yr Unol Daleithiau i gynnal cysylltiadau â Gweriniaeth Tsieina yn Taiwan hyd 1979, pan sefydlon cysylltiadau diplomyddol llawn â Gweriniaeth Pobl Tsieina.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Richard M. Nixon, The Memoirs of Richard Nixon (Efrog Newydd: Warner Books, 1978), t. 1060