Taleithiau ffederal yr Almaen

Mae'r Almaen yn weriniaeth ffederal sy'n cynnwys 16 o daleithiau ffederal a elwir yn Länder (unigol: Land).[1] Gelwir y taleithiau hyn yn anffurfiol yn Bundesländer ("Gwlad ffederal") neu'n Bundesländer ("Gwledydd Ffederal"). Mae gan yr Almaen gyfansoddiad ffederal, gan iddi gael ei chreu o nifer o weriniaethau cynharach; mae sawl un o'r taleithiau hyn yn dal i gadw rhyw elfen o annibyniaeth a sofraniaeth. Gelwrir tair ohonynt (Berlin, Bremen a Hamburg) yn aml yn Stadtstaaten (“Dinas-Daleithiau") a'r 13 sy'n weddill yn Flächenländer ("Ardal-Dalaith").

Taleithiau ffederal yr Almaen
Enghraifft o'r canlynolenw un tiriogaeth mewn gwlad unigol Edit this on Wikidata
Mathtalaith, administrative divisions of Germany, NUTS Lefel 1 (UE), is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Gwladwriaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Crëwyd Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (“Gorllewin yr Almaen”) ym 1949 trwy uno'r taleithiau gorllewinol (a oedd gynt dan weinyddiaeth America, Prydain a Ffrainc) a grëwyd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. I ddechrau, ym 1949, taleithiau'r Weriniaeth Ffederal oedd Baden (tan 1952), Bafaria (yn Almaeneg: Bayern), Bremen, Hamburg, Hesse (Hessen), Sacsoni Isaf (Niedersachsen), Gogledd Rhein-Westphalia (Nordrhein-Westfalen), Rhineland-Palatinate (Rheinland-Pfalz), Schleswig-Holstein, Württemberg-Baden (tan 1952) a Württemberg-Hohenzollern (tan 1952). Integreiddiwyd ac ystyriwyd Gorllewin Berlin yn wladwriaeth de facto, er nad oedd yn swyddogol yn rhan o'r Weriniaeth Ffederal.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Basic Law for the Federal Republic of Germany" (PDF). Deutscher Bundestag. 28 Mehefin 2022. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2022.


Taleithiau ffederal yr Almaen  
Baden-Württemberg | Bafaria | Berlin | Brandenburg | Bremen | Hamburg | Hessen | Mecklenburg-Vorpommern | Niedersachsen | Nordrhein-Westfalen | Rheinland-Pfalz | Saarland | Sacsoni | Sachsen-Anhalt | Schleswig-Holstein | Thüringen