Dinas yn rhanbarth Mersin yn Nhwrci yw Tarsus (Groeg: Ταρσός), rhyw 40 km o ddinas Adana. Mae'n fwyaf enwog fel dinas enedigol yr Apostol Paul.

Tarsus
Mathdinas, district of Turkey, dinas fawr, bwrdeistref Edit this on Wikidata
Poblogaeth339,676, 346,715, 342,373, 329,494, 238,276 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iLangen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Mersin Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
Arwynebedd2,240 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr23 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Berdan, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.92°N 34.9°E Edit this on Wikidata
Map

Saif ar yr arfordir lle mae Afon Tarsus (Cydnus) yn llifo i'r Môr Canoldir. Yng nghyfnod yr Ymerodraeth Seleucaidd, roedd yn dref Roegaidd ac yn enwog am ei hysgolion, oedd yn cystadlu a rhai Athen ac Alexandria. Dan y Rhufeiniaid, daeth yn brifddinas talaith Cilicia (Caput Ciliciae). Gwnaed y trigolion yn ddinasyddion Rhufeinig yn 66 CC.

Heblaw Sant Paul, roedd yn ymerawdwr Rhufeinig Marcus Annius Florianus yn frodor o'r ddinas, a Tarsus oedd lleoliad rhan o'r garwriaeth rhwng Marcus Antonius a Cleopatra. Yma hefyd y claddwyd yr ymerawdwr Julian.

Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.