Mae tawlbwrdd yn fersiwn Cymreig o'r gêm Nordig Hnefatafl, a chafodd ei ddisgrifio gan Robert ab Ifan mewn llawysgrif o 1587. Chwaraewyd y gêm ar fwrdd 11 x 11. Mae'n dilyn yr un rheolau â gwyddbwyll Geltaidd, ac eithrio bod gan y Brenin 12 o amddiffynwyr ac mae'n gwrthwynebu 24 o elynion. Mae peth dadlau a oedd deis yn rhan o'r chwarae gan fod deis wedi'i ddarganfod gyda'r tawlbwrdd mewn sawl cloddfa archeolegol yng Ngwledydd Llychlyn; efallai fod y gair "taflu" yn rhan o'r gair "tawl" neu "tafl".[1]

Tawlbwrdd
Enghraifft o'r canlynolgêm bwrdd Edit this on Wikidata
Mathdraffts Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tawlbwrdd

Cofnodwyd y gair yn y Gymraeg yn gyntaf yn Llyfr Iorwerth (LlI 8), yn y 13g:... er egnat llys ... Ef a dely tavlbvrd o ascvrn moruyl e gan e brenhyn a modrve eur e gan e urenhynes ac arall e gan e bard teylu, a’r ouertlesseu henny ny dele ef nac eu rody nac eu guerthu tra uo byv.[2]

Roedd y tawlbwrdd yn un o'r anrhegion a roddai'r brenin i'w uchelwyr: ei ynadon llys a'i feirdd.[3] Mae Guto'r Glyn yn crybwyll y gêm (ond nid gwyddbwyll), a chanodd yn ei foliant i Syr Rosier Cinast o'r Cnwcin:

Gwreiddiol Ystyr
Ni fedrai iarll pan fu drin
Warae cnocell â’r Cnwcin;
Gwarae a wnaeth ein gŵr nod
Towlbwrdd gwŷr duon Talbod,
Gwarae bars â’r Mars y mae,
Eithr y gŵr aeth â’r gwarae.
Ni fedrai iarll pan fu’n frwydr
chwarae cis â’r mab o’r Cnwcin;
chwarae a wnaeth ein rhyfelwr hynod
dawlbwrdd gwŷr duon Talbod,
chwarae bars â’r Mers y mae,
ond y rhyfelwr a enillodd y gêm.

[4]

Cofnododd Robert ap Ifan ym 1587 ddisgrifiad (a llun) o'r gêm, gan ddweud ei fod yn cael ei chwarae ar fwrdd 11×11 gyda 12 darn ar ochr y brenin a 24 ar ochr y gwrthwynebydd. Dyma'r hyn a ysgrifennodd:[5]

Dylid chwarae'r gêm gyda'r brenin yn y canol a deuddeg o ddynion o'i gwmpas, gyda dau-ddeg-pedwar o ddynion yn ceisio ei ddal. Gosodir y rhai hyn fel a ganlyn: chwech yng ngahanol pob ochr o'r bwrdd yn y chwe man canolig. Mae'r ddau berson yn symud y darnau. Os oes darn yn dod rhwng dau o ddarnau'r gwrthwynebwr yna mae'n marw, a theflir y darn allan o'r gêm. Ond os yw'r brenin ei hun yn dod rhwng dau o ddarnau ei wrthwynebydd, yna os dywedwch "Cym bwyll, gwylia dy frenin!" cyn iddo symud i'r rhan honno (hy rhwng dau ddarn) ac os na all symud, yna mae'n cael ei ddal. Os yw eich gwrthwynebwr yn dweud "Fi yw dy was!" ac yn rhoi un o'i ddarnau rhwng dau o'ch darnau chi, yna ddaw dim drwg o hynny. Ac os yw'r brenin yn medru cyrraedd y linell..., mae'n ennill y gêm.

Cyfeiriadau golygu

  1. Helmfrid 2005, tud.10–11; Bayless 2005, tud.15–16,
  2. geiriadur.ac.uk (GPC); adalwyd 21 Rhagfyr 2015
  3. Llyfr Iorwerth gan A.R. Wiliam (gol.); (Caerdydd, 1960), 10.9, t. 13.15.
  4. gutorglyn.net; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 21 Rhagfyr 2015
  5. Robert ap Ifan (1587), Y Llyfrgell Genedlaethol, MS 158. Dyfynnwyd yn H. J. R. Murray, A History of Board-Games Other than Chess (Gwasg Rhydychen, 1951), tud. 63.