Pobl frodorol Patagonia yw'r Tehuelche (yr Aónikenk yn y de a'r Günün-A-Küna yn y gogledd). Cyfeirir atynt weithiau fel y Patagones, sef “traed mawr”, gan fforwyr Sbaen, a ddarganfu olion traed y llwyth ar draethau'r wlad.[1] Fodd bynnag, roedd y Patagones yn gwisgo crwyn anifail ar eu traed oedd yn gwneud yr ôl traed yn fwy o faint na thraed yr Ewropeaid.

Gwersyll Tehuelche, 1838.

Roedd rhai 4,000 neu 5,000 ohonyn yn byw yn yr ardal cyn i'r Ewropeaid gyrraedd, ond lleihaodd eu nifer yn gyflym ac yn ôl y Databas Ethnolegol does dim ond 4 o bobl yn siarad yr iaith heddiw.

Un o frodorion gwreiddiol Patagonia, ac aelod o'r Tehuelche

Yr Ewropeiaid cyntaf i gwrdd â'r Tehuelche oedd y morwyr ar long Ferdinand Magellan ym 1520 a cheir adroddiad amdanynt gan Antonio Pigaffeta, cartograffydd a chroniclydd y daith.

Daethant i gysylltiad â'r Cymry yn y Wladfa yn Nyffryn Camwy o fewn tua blwyddyn i sefydlu'r Wladfa. Ar y cyfan, roedd y berthynas rhwng y Gwladfawyr a'r Tehuelche yn dda iawn; a dysgodd y Tehuelche lawer i'r Cymry am y wlad ac am ddulliau hela brodorol.

Roedd y Tehuelche yn helwyr, ond newidiodd eu ffordd o fyw ar ôl i'r ymsefydlwyr o Ewrop gyrraedd gyda'u ceffylau. Roedden nhw'n symud o gwmpas y wlad yn grwpiau teuluol. Collasant lawer o'u tiroedd yn ystod Concwest yr Anialwch yn y 1870au a'r 1880au.

Dolenni allanol golygu

  1. Pre-Hispanic Chile Pre Hispanic people of Chile Archifwyd 2011-07-25 yn y Peiriant Wayback. http://www.thisischile.cl Archifwyd 2011-07-25 yn y Peiriant Wayback. adalwyd Tachwedd 29