Pyrrharctia isabella
Statws cadwraeth
Heb ei werthuso (IUCN 3.1)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Arctiidae
Genws: Pyrrharctia
Rhywogaeth: P. isabella
Enw deuenwol
Pyrrharctia isabella
(JE Smith, 1797)

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw teigr llwydfelyn, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy teigrod llwydfelyn; yr enw Saesneg yw Isabelline Tiger, a'r enw gwyddonol yw Pyrrharctia isabella.[1][2] Yr enw Saesneg am y lindys ydy Banded Woolly Bear. Oherwydd yr holl flewiach ar y siani flewog, gall fyw mewn gwledydd oer, gan gynnwys yr Arctic.

siani flewog

Mae'n gaeafgysgu fel lindys ac fel arfer mae'r dorff bychan wedi'i rewi'n gorn. Pan ddaw'r gwanwyn mae'n meirioli ac yn mynd ati fel lladd nadroedd i greu sach grisial, a throi'n chwiler.

Oedolyn

Gall fwyta amrywiaeth dda o blanhigion ond ei brif fwyd ydy perlysiau.[3]

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r teigr llwydfelyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. "Entomology Collection > Pyrrharctia isabella". E.H. Strickland Entomological Museum, University of Alberta. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-06. Cyrchwyd 2008-11-21.