Arctia caja
Resting pose
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Arctiidae
Genws: Arctia
Rhywogaeth: A. caja
Enw deuenwol
Arctia caja
Linnaeus, 1758

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw teigr yr ardd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy teigrod yr ardd; yr enw Saesneg yw Garden Tiger, a'r enw gwyddonol yw Arctia caja.[1][2] Fe'i ceir yn Ewrop, Asia a Gogledd America.

Lled ei adenydd agored ydy 45–65 millimetre (1.8–2.6 in) ac yn ddibynol ar ei union leoliad, mae'n hedfan rhwng Mehefin ac Awst. Mae'r hylif sydd o fewn ei gorff yn wenwynig i helwyr. Gall y patrymau ar ei gorff amrywio cryn dipyn.

Ymhlith bwydydd amrywiol y lindysceir: mafon cochion, mwyar duon, gwyddfid, erica, a banadl.

Mae ei niferoedd yng ngwledydd Prydain, dros y 30 mlynedd diwethaf wedi lleihau 89%.[3]

Oriel luniau golygu

Perthynas â phobl golygu

  • Eirth gwlanog Talacre 23 Mai 1924:... Many Woolly Bears crawling on sand. Y woolly bears ydi lindys teigr yr ardd, tystiolaeth eu bod nhw wedi bod yn fwy cyffredin ers talwm fel mae'r gem plant "rasus tedibers" yn tystio hefyd][4]

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r teigr yr ardd yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. "Insecticide! (An ecological disaster that will affect us all)". Independent.co.uk. 2008-11-15. Cyrchwyd 2011-10-10.
  4. Dyddiadur di-enw o Tywyn, Abergele (yn Nhywyddiadur gwefan Llên Natur[www.llennatur.cymru]