Llysieuyn a pherlysieuyn blodeuol ydy Teim (Lladin: Thymus vulgaris a rhywogaethau eraill o'r genws Thymus; Sa: Thyme) a dyfir mewn gerddi drwy Ewrop a'r Dwyrain Canol i'w ddefnyddio yn y gegin ac er mwyn ei briodweddau iachusol. Mae ganddo flas cryf (heb fod yn llethol chwaith) oherwydd ei fod yn cynnwys cryn dipyn o theimol (thymol). Fe'i defnyddiwyd gan y Rhufeiniaid a'r Eifftiaid a thrwy'r Oesoedd Canol fel persawr ar y corff, i awyru ystafelloedd a hyd yn oed mewn gobennydd i atal hunllefau.[1].

Teim cyffredin: Thymus vulgaris.
Y perlysieuyn wedi'i sychu

Coginio golygu

Fe'i defnyddir ynghyd â dail 'bae' a phersli mewn coginio Ffrengig i wneud bouquet garni a herbes de Provence. Caiff ei werthu'n ffres (blas cryfach) ac yn sych (haws ei storio).

Rhinweddau meddygol golygu

Dywedir ei fod yn dda at beswch, y pâs a rhyndod.[2] Mae olew Thymus vulgaris yn cynnwys 20 - 54% o theimws sy'n wrthseptig gwych (dyma ydy cynnwys y glanhawr ceg Listerine).[3][4] Mae'r te yn medru cael ei ddefnyddio hefyd i wella dolur gwddw drwy ei oeri a'i garglo deirgwaith y dydd.

Llenyddiaeth golygu

Ceir ambell gyfeiriad at teim mewn llenyddiaeth gan gynnwys yr hen bennill:

Ar lan y môr mae carreg wastad,
Lle bum yn siarad gair a’m cariad,
O amgylch hon mae teim yn tyfu
Ac ambell sbrigyn o rosmari

Dyma drosiad Gwyn Thomas o Midsummer Night’s Dream (Breuddwyd Nos Wyl Ifan) gan Shakespeare a chyfeiriad at y teim (Bwletin 30):

Mi wn am lain lle tyf y teim yn wyrdd,
A llysiau'r parlys, fioledau fyrdd,
A glwys yn do i'r fan mae gwyddfid pêr,
Miaren Mair a rhosys dan y sêr.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Huxley, A., ed. (1992). New RHS Dictionary of Gardening. Macmillan.
  2. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
  3. Thymus Vulgaris. PDR for Herbal Medicine. Montvale, NJ: Medical Economics Company. Tudalen 1184.
  4. Pierce, Andrea. 1999. American Pharmaceutical Association Practical Guide to Natural Medicines. Efrog Newydd: Stonesong Press. Tudalen 338-340.
  5. Bwletin Llên Natur rhif 31

Gweler hefyd golygu