Offeryn "i weld pell yn agos" fel y dywedodd Ellis Wyn yng Ngweledigaethau'r Bardd Cwsg yw'r telesgop (ysbienddrych oedd yr hen enw Cymraeg (neu weithiau 'sbenglas') hynny yw offeryn technegol i berson edrych ar bethau pell er mwyn eu gweld yn well. Mae'n cymryd i fewn ymbelydredd electromagnetig e.e. golau gweladwy.

John Jones Bangor
John Jones (1818–1898), Bangor, Cymru, gyda'i delesgop 8-modfedd a luniodd ei hun. Mae'r ffortograff hwn allan o: Seryddiaeth a Seryddwyr gan J. S. Evans (Carerdydd, 1923, tud. 273,)
Telesgop UDA
Telesgop adlewyrchiadol 100-modfedd (2.54 m) Hooker yn Arsyllfa Mount Wilson, ger Los Angeles, UDA.

Yn yr Iseldiroedd yn y 17g y crëwyd y telesgop cyntaf, mae'n debyg; y dyfeisiad allweddol cyn hynny oedd y dulliau diweddaraf o greu'r lens gwydr a drychau ac o fewn degawd, crëwyd y telesgop adlewyrchol cyntaf.[1]

Yn yr 20g dyfeisiwyd nifer o delesgopau gwahanol gan gynnwys telesgopau radio yn y 1930au a thelesgopau isgoch yn y 1960au. Mae'r gair 'telesgop' bellach yn cyfeirio at ystod eang o offerynnau sy'n synhwyro ac yn cofnodi gwananol rannau o'r sbectrwm electromagnetig.

Geirdarddiad golygu

Bathwyd y term Groeg teleskopos (τηλεσκόπος), gan y mathemategydd Giovanni Demisiani yn 1611 i ddisgrifio un o beiriannau Galileo; ystyr 'tele' (τῆλε) ydy 'pell', ac ystyr 'skopein' (σκοπεῖν)ydy 'edrych'. Cafodd yr offeryn a ddisgrifiwyd ganddo ei arddangos mewn gwledd yn yr Accademia dei Lincei.[2][3][4] Yn Negeswyr y Sêr, bathwyd y gair "perspicillum" gan Galileo, ond yn ofer.

Cydrannau'r telesgop syml golygu

 
(1) Lens gwrthrychol (hyd ffocal  ) (2) Rhan gwylio (aka. ocular; hyd ffocal (focal length)  ) (3) Llygad (4) Gwrthrych (o gryn bellter) (5) Y ddelwedd o'r gwrthrych ar blân ffocal y lens (yma, gellid rhoi camera neu ffilm) (6) Ddelwedd rithwir o'r gwrthrych fel mae'n edrych i'r llygad (7) Tiwb

Gwahanol fathau golygu

Mae gwahanol fathau o delescopau ar gael sy'n caniatau'r seryddwr i 'weld' amywiaeth eang o'r sbectrwm electromagnetig:

  • Y Telesgop Optig: sy'n caniatau i'r rhan weledol o'r sbectrwm electromagnetig gael ei chwyddo
  • Telesgop Radio: antena sy'n edrych ar ran radio'r sbectrwm. Un o ddyfeiswyr penna ym maes awyrennau oedd y Cymro Edward George Bowen
  • Telesgop Pelydr-x a Phelydr-gama

Y sbectrwm electromagnetig golygu

 

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. galileo.rice.edu The Galileo Project > Science > The Telescope by Al Van Helden: "The Hague discussed the patent applications first of Hans Lipperhey of Middelburg, and then of Jacob Metius of Alkmaar... another citizen of Middelburg, Sacharias Janssen had a telescope at about the same time but was at the Frankfurt Fair where he tried to sell it"
  2. archive.org "Galileo His Life And Work" gan James La Rosa "Galileo usually called the telescope occhicde or cannocchiale; and now he calls the microscope occhialino. The name telescope was first suggested by Demisiani in 1612"
  3. Sobel (2000, t.43), Drake (1978, t.196)
  4. Rosen, Edward, The Naming of the Telescope (1947)
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: