Teml Dendera (Hen Eiffteg: Iunet neu Tantere; Groeg Dendera), a leolir tua 2.5 km i'r de o dref Dendera, yng nghanolbarth Yr Aifft, yw un o'r enghreifftiau gorau o deml Eifftaidd a'i hadeiladau atodol yn yr Aifft. Fe'i lleolir yn yr Aifft Uchaf, i'r de o Abydos ac i'r gogledd o Thebes a Luxor, ar lan orllewinol Afon Nîl. Roedd yn ganolfan fawr i gwlt y dduwies Hathor.

Teml Dendera
MathEgyptian temple, teml, adfeilion, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDendera Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Aifft Yr Aifft
Cyfesurynnau26.14167°N 32.67028°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolHellenistic architecture Edit this on Wikidata
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion
Teml Hathor, Dendera

Mae'r safle yn cynnwys 40,000 medr sgwar o dir a amgylchynnir gan fur o friciau mwd sych. Ymddengys mai'r brenin Pepi I (c. 2250 CC) a gododd un o'r temlau cyntaf ar y safel a cheir tystiolaeth hefyd am adeiladu arno yn ystod Deunawfed Frenhinllin yr Aifft (c. 1500 CC). Ond yr adeilad hynaf sy'n dal i sefyll yno heddiw yw'r Mammisi a godwyd gan y brenin Nectanebo II – yr olaf o'r pharaohs brodorol (360 CC-343 CC). Mae'r safle yn cynnwys,

  • Teml Hathor (y prif deml),
  • Teml Genedigaeth Isis,
  • Y Llyn Sanctaidd,
  • Sanatoriwm,
  • Mammisi Nectanebo II,
  • Basilica Goptaidd,
  • Mammisi Rhufeinig
  • Pyrth Domitian & Trajan