Ynys sy'n un o'r Ynysoedd Dedwydd yw Tenerife. Gyda La Palma, La Gomera ac El Hierro, mae'n ffurfio talaith Santa Cruz de Tenerife yng nghymuned ymreolaethol yr Ynysoedd Dedwydd, Sbaen. Gyda phoblogaeth o 865,070, hi yw'r ynys fwyaf poblog yn Sbaen.

Tenerife
Mathvolcanic island, endid tiriogaethol gweinyddol, cyrchfan i dwristiaid Edit this on Wikidata
Poblogaeth931,646 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYr Ynysoedd Dedwydd Edit this on Wikidata
LleoliadCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd2,034 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr10 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.2686°N 16.6056°W Edit this on Wikidata
Map

Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Santa Cruz de Tenerife, sydd hefyd yn brifddinas y dalaith a hefyd yn brifddinas y gymuned ymreolaethol ar y cyd a Las Palmas de Gran Canaria. Yr ail ddinas ar yr ynys yw San Cristóbal de La Laguna, sy'n Safle Treftadaeth y Byd.

Mae'r ynys wedi ei ffurfio gan losgfynyddoedd. Yr uchaf o'r rhain, a'r copa uchaf yn Sbaen, yw Pico de Teide.

Ystyrir traethau Los Cristianos ymysg rhai o draethau gorau'r ynys ac mae canolfan Playa de Las Teresitas (traeth y Saeson) yn cynnig bywyd nos bywiog iawn. Mae gan Tenerife gyfleusterau golff gwych ac mae gan yr ynys draddodiad hir o chwaraeon.

Mynydd Teide golygu

Fel mynydd a ffotograffwyd yn aml ac yn gyson dros ddegawdau gallasai cronicl o bresenoldeb, absenoldeb a ffenoleg yr eira ar lechweddau Tiede trofannol fod yn ddadlennol iawn o hynt prosesau Newid Hinsawdd. Mae mynydd uchaf Sbaen, fel mynydd eiraog ar y drofan, yn ddiddorol fel ‘baromedr’.

Yn dilyn storm enfawr ar y 4ydd o Fawrth 2013 roedd gorchudd trwchus o eira o thua 7000 troedfedd uwch y mor hyd y copa (12,198 tr.). Roeddem yn cerdded hyd 8500 troedfedd ar y 3ydd gyda ambell damaid o eira yno pryd hynny. Fe barodd yr eira weddill yr wythnos er bod y tymheredd hyd 24 gradd canradd ger y môr. Union fis ar ôl hynny, ar 4 Ebrill 2013, prin nad oedd ond y mymryn lleiaf ar ôl ar y copa.[1]

 
Pico de Teide (ar y chwith) a mynyddoedd eraill y Cañadas del Teide, ble ffilmiwyd Planet of the Apes

Cyfeiriadau golygu