Tennenshoku Katsudō Shashin

Stiwdio ffilm o Japan oedd Tennenshoku Katsudō Shashin (天然色活動写真) a oedd yn brysur iawn yn y 1910au. Ystyr yr enw ydy "Cwmni ffilm Symudol Lliw Naturiol" ond fel "Tenkatsu" yr oedd yn cael ei adnabod. Cafodd ei greu ym 1914 allan o gwmni arall o'r enw Stiwdio Fukuhōdō. Roedd yn defnyddio dull newydd o ffilm o'r enw Kinemacolor.[1] Ond roedd y system yma'n rhy ddrud ac felly fe ddefnyddion nhw system ffilm arferol.[2]

Roedd y cwmni yn adnabyddus am gomisiynu Ōten Shimokawa i gynhyrchu rhai o'r anime cyntaf erioed.[3] Yn 1919 cafodd y cwmni ei brynu gan Kokkatsu.

Cyfeiriadau golygu

  1. Komatsu, Hiroshi (1995). "From natural colour to the pure motion picture drama: the meaning of Tenkatsu Company in the 1910s of Japanese film history". Film History 7 (1): 69–86. https://archive.org/details/sim_film-history_spring-1995_7_1/page/69.
  2. Gerow, Aaron (2000). "One print in the age of mechanical reproduction: film industry and culture in 1910s Japan". Screening the Past (11). http://www.latrobe.edu.au/screeningthepast/firstrelease/fr1100/agfr11e.htm. Adalwyd 2014-01-21.
  3. LaMarre, Thomas (2009). The Anime Machine. University of Minnesota Press. tt. xxix. ISBN 978-0-8166-5154-2.