Teyrnas yng ngogledd yr hyn sy'n awr yn Sbaen yn y Canol Oesoedd oedd Teyrnas Castilla (Sbaeneg: Reino de Castilla, Ffrangeg: Castille, Saesneg: Castile). Cyfeirir ati yng ngwaith y bardd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) fel Castil.[1] Safai i'r dwyrain o Deyrnas Léon, gan ymestyn o Fae Bizkaia yn y gogledd hys at ffiniau al-Andalus yn y de. Yn rhan olaf yr Oesoedd Canol, hi oedd y deyrnas fwyaf yn Sbaen.

Teyrnas Castilla
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlcastell Edit this on Wikidata
PrifddinasBurgos Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1035 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg, Basgeg, Galiseg, Leonese Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladTeyrnas Castilla, Coron Castilia, Ymerodraeth Sbaen, Sbaen Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTeyrnas León Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Brenin Teyrnas Castilla Edit this on Wikidata
Crefydd/Enwadyr Eglwys Gatholig Rufeinig Edit this on Wikidata
ArianSpanish maravedí Edit this on Wikidata
Teyrnas Castilla yn 1210

Dechreuodd y broses o adfeddiannu Sbaen gan y Cristionogion, a elwir y Reconquista, gyda gwrthwynebiad teyrnas fychan Asturias i Fwslimiaid al-Andalus, oedd wedi meddiannu bron y cyfan o benrhyn Iberia o 711 ymlaen. Wrth i'r Cristionogion ennill tir ac ymestyn eu tiriogaethau tua'r de, ymddangosodd yr enw Castilla tua 800.

Ar y dechrau, roedd Castillia yn cael eu rheoli gan frenhinoedd Asturias a León. Yn 1037, ffurfiodd Ferdinand I deyrnas unedig Castillia a León. Yn 1058, dechreuodd Ferdinand gyfres o ryfeloedd yn erbyn y Mwslimiaid, ac arweiniodd buddugoliaethau'r Cristionogion ym mrwydrau Alarcos a la Navas de Tolosa at goncro'r tiriogaethau a elwir yn Castilla Newydd.

Tyfodd y deyrnas yn sylweddol yn ystod teyrnasiad Alphonso VI (1065-1109) ac Alphonso VII (1126-1157). Tyfodd bywyd diwylliannol y deyrnas dan Alphono X, ond dilynwyd hyn gan gyfnod hir o ymryson mewnol. Yn 1469, priododd Isabel I, brenhines Castilla a Ferdinand II, brenin Aragon, gan ddechrau'r broses o uno teyrnasoedd Castilla ac Aragon, a chreu Teyrnas Sbaen.

Erys yr enw Castilla yn enwau dwy gymuned ymreolaethol yn Sbaen: Castilla-La Manche a Castilla-y-León.

Cyfeiriadau golygu

  1. www.gutorglyn.net; Archifwyd 2021-07-23 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 22 Mawrth 2018 gyda chaniatad gan Ann Parry Owen (gweler Trydariad yma.