Gwladwriaeth yn ardal yr Hijaz ar Orynys Arabia oedd Teyrnas Hijaz a reolwyd gan frenhinllin yr Hasimiaid. Datganodd y Sharif Hussein bin Ali ei hunan yn Frenin Teyrnas Hijaz ym 1916 yn ystod y Gwrthryfel Arabaidd yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid. Cafodd yr Hijaz ei choncro ym 1925 gan Ibn Saud, Swltan Najd, ac unodd Deyrnas Hijaz a Swltaniaeth Najd gan ffurfio Teyrnas Najd ac Hijaz, a ail-enwyd yn Sawdi Arabia ym 1932.

Teyrnas Hijaz
Mathgwlad ar un adeg, teyrnas Edit this on Wikidata
PrifddinasMecca Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,500,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 10 Mehefin 1916 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg, Tyrceg Otomanaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau21.42°N 39.83°E Edit this on Wikidata
Map
ArianHejaz Saudi riyal Edit this on Wikidata

Brenhinoedd Hijaz golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sawdi Arabia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato