The Adventures of Ichabod and Mr. Toad

ffilm

Ffilm Disney yw The Adventures of Ichabod and Mr. Toad (1949). Mae hi'n seiliedig ar y llyfrau: "The Wind in the Willows" gan Kenneth Grahame [1] ac "The Legend of Sleepy Hollow" gan Washington Irving. [2]

The Adventures of Ichabod and Mr. Toad
Cyfarwyddwr Clyde Geronimi
Jack Kinney
James Algar
Cynhyrchydd Walt Disney
Ysgrifennwr Kenneth Grahame
Washington Irving
(llyfrau)
Homer Brightman
Winston Hibler
Erdman Penner
Joe Rinaldi
Ted Sears
Harry Reeves
Serennu Bing Crosby
Eric Blore
Basil Rathbone
J.Pat O'Malley
Colin Campbell
Cerddoriaeth Oliver Wallace
Dylunio
Cwmni cynhyrchu RKO Radio Pictures, Inc.
Dyddiad rhyddhau 5 Hydref, 1949
Amser rhedeg 68 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Y ffilm yw'r 11eg ffilm nodwedd animeiddiedig gan Disney, a'r olaf o oes ffilm pecyn y stiwdio o'r 1940au, yn dilyn Saludos Amigos, The Three Caballeros, Make Mine Music, Fun and Fancy Free, a Melody Time. Ni fyddai Disney yn cynhyrchu ffilm becyn arall hyd The Many Adventures of Winnie the Pooh ym mis Mawrth 1977. [3]

Gan ddechrau ym 1955, cafodd dau segment y ffilm eu gwahanu, a'u harddangos ar y teledu fel rhan o gyfres deledu Disneyland. Yn ddiweddarach cawsant eu marchnata a'u gwerthu ar wahân ar fideo gartref.

Segmentau

Gan fod segmentau animeiddiedig y ffilm yn seiliedig ar weithiau llenyddol, mae'r ddau ohonynt yn cael eu cyflwyno mewn golygfeydd actio byw wedi'u gosod mewn llyfrgell fel dyfais fframio. Mae Basil Rathbone yn cyflwyno ac yn adrodd y segment cyntaf, a chyflwynir ac adroddir yr ail segment gan Bing Crosby. [4] Cyhoeddodd Decca Records albwm o’r enw Ichabod - The Legend of Sleepy Hollow yn cynnwys Bing Crosby ym 1949 i gyd-fynd â rhyddhau’r ffilm. [5]

Plot

The Wind in the Willows

Mae'r stori wedi'i lleoli yn Llundain a'r cyffiniau, rhwng 10 Mehefin 1908 ac 1 Ionawr, 1909. Y prif gymeriad yw J. Thaddeus Toad, Ysw. Ef yw perchennog cyfoethog ystâd Toad Hall, mae'n gymeriad afradus sy'n gwario ei ffortiwn ar bob ffad newydd mae'n dod ar ei draws. Mae ffrind Toad, Angus MacBadger, yn gwirfoddoli i fod yn gyfrifydd Toad i helpu iddo gadw ei ystâd rhag methdaliad. [6]

Un diwrnod o haf, mae MacBadger yn gofyn i ffrindiau Toad, Ratty (llygoden bengron y dŵr) a Moley (gwahadden) i berswadio Toad i roi'r gorau i'w mania diweddaraf o yrru'n ddi-hid o amgylch cefn gwlad mewn ceffyl a throl sipsiwn. Mae Toad yn creu llawer o ddifrod wrth gael damweiniau efo'r drol ac yn costio ffortiwn trwy dalu iawndal am y difrod. Mae Ratty a Moley yn cael gair â Toad, ond yn methu newid ei feddwl. Mae Toad yn ceisio dianc oddi wrthynt, wrth ffoi mae'n gweld car modur am y tro cyntaf ac yn cael ei swyno gan y peiriant newydd.

Er mwyn ceisio ffrwyno Toad mae Ratty and Moley yn ceisio ei rwystro rhag gadael ei dŷ. Mae Toad yn llwyddo dianc ond mae'n cael ei arestio am geisio dwyn car. Yn yr achos llys mae Toad yn honni iddo weld y car tu allan i dafarn ac wedi mynd i mewn i'r dafarn a chynnig ffeirio Toad Hall am y car. Mae Mr Winkie, y tafarnwr, yn dweud celwydd wrth y llys. Mae'n gwadu ei fod wedi bod yn dyst i ddêl rhwng y gwencïod a Toad i ffeirio Toad Hall am y car ac yn honni bod Toad wedi cynnig gwerthu'r car oedd wedi dwyn iddo. Mae Toad yn cael ei ddyfarnu'n yn euog ac yn cael ei ddedfrydu i 20 mlynedd yn Nhŵr Llundain. [7]

Mae Cyril Proudbottom, ceffyl Toad, yn ymweld â'r Tŵr mewn cuddwisg yn cogio ei fod yn Nain y carcharor. Mae'n helpu Toad i ddianc. Mae Toad yn dwyn trên i geisio ffoi, ond mae'n cael ei herllyd gan yr heddlu. Mae'n neidio allan o'r trên i mewn i'r afon. Mae'r heddlu yn credu ei fod wedi boddi gan ei fod yn gwisgo pêl a tsiaen o'r carchar bydda'i wedi ei dynnu i'r gwaelod heb obaith dianc. Roedd Toad, wedi goroesi fodd bynnag, ac mae llwyddo cyrraedd tŷ Ratty. Mae Moley yn hapus i'w weld eto ond mae Ratty yn mynnu bod Toad yn dychwelyd i'r carchar ac yn talu ei ddyled i gymdeithas. Mae MacBadger yn cyrraedd, gan eu hysbysu mai Winkie yw arweinydd gang y gwencïod, a bod Toad wedi cyfnewid Toad Hall am y car oedd wedi'i ddwyn. Mae MacBadger yn datgelu mae gan Winkie ei hun mae'r weithred a bod y gwencïod bellach wedi meddiannu Toad Hall.

Gan wybod y byddai'r weithred sy'n dwyn llofnodion Toad a Winkie yn profi diniweidrwydd Toad, mae'r pedwar ffrind yn sleifio i mewn i Toad Hall mewn cwch gan ddefnyddio twnnel cyfrinachol ger yr afon. Wrth ddod o hyd i'r gwencïod a Winkie (sydd â'r weithred ar ei berson) wedi meddwi a phasio allan, maen nhw'n ceisio gostwng Moley ar raff i'w bachu. Mae gwarchodwr y gwencïod yn ymchwilio, dod o hyd i'r dramwyfa ac yn deffro'r Gwencïod a Winkie. Ar ôl cael eu hymlid o amgylch yr ystâd mae'r pedwar yn llwyddo i ddianc gyda'u bywydau, a'r weithred.

Daw'r ffilm i ben ar Ddydd Calan gyda Toad wedi ei ryddhau o fai am ddwyn y car ac wedi adennill ei dŷ tra bod Winkie a'r gwencïod wedi'u harestio a'u carcharu. Wrth i MacBadger, Ratty, a Moley ddathlu'r Flwyddyn Newydd gyda llwncdestun i Toad a diwedd ei afradlonedd. Wrth iddynt wneud mae Toad a Cyril yn hedfan heibio yn ddi-hid mewn awyren ddwbl, teclyn sydd newydd ei ddyfeisio. Nid yw Toad wedi'i ddiwygio o gwbl, mae wedi datblygu obsesiwn newydd am awyrennau.

The Legend of Sleepy Hollow

Mae the Legend of Sleepy Hollow wedi ei osod ym 1790 yn Sleepy Hollow, Efrog Newydd, pentref bach y tu allan i Tarrytown sy'n enwog am gael ei aflonyddu gan ysbrydion. Mae'r hanes yn ymwneud â dau ddyn yn ceisio ennill serch yr un fenyw. Mae Ichabod Crane yn athro, mae'n ddandïaid dymunol sy'n dod ymlaen yn dda gyda'i disgyblion a phobl y pentref. Mae Brom Bones, yn un o arwr y dref ac yn dipyn o gnaf. Mae'n gwneud ei orau i fwlio a chwarae triciau ar Ichabod. [8]

Mae'r ddau mewn cariad â Katrina van Tassel, merch hardd y ffermwr cyfoethog Baltus van Tassel. Er gwaethaf ei obsesiwn â harddwch Katrina, mae Ichabod yn ffansio arian ei theulu. Yn ddiarwybod i'r ddau ddyn, mae Katrina yn ymateb i serch Ichabod i wneud Brom yn genfigennus a'i orfodi i ymdrechu'n galetach am ei chariad.

Gwahoddir y ddau gystadleuydd am gariad Katrina i barti Calan Gaeaf van Tassel. Tra bod y ddau ddyn yn ciniawa, mae Brom yn gweld Ichabod yn curo'r salter halen drosodd ac yn taflu halen dros ei ysgwydd chwith yn nerfus. Mae'n darganfod mae gwendid pennaf Ichabod yw ofergoeliaeth. I chware ar ofnau Ichabod mae Brom yn canu am chwedl y marchogwr di-ben. Yn ôl pob sôn, mae’r marchogwr yn teithio’r goedwig pob Calan Gaeaf yn chwilio am ben byw i gymryd lle’r un yr oedd wedi’i golli, a’r unig ffordd i ddianc o’r ysbryd yw croesi pont arbennig. Mae pawb arall, gan gynnwys Katrina, yn gweld y gân yn ddoniol, tra bod Ichabod yn dechrau ofni am ei fywyd.

Wrth farchogaeth adref o'r parti trwy'r union goedwig oedd yn cael ei chrybwyll yn gân, mae'r Marchogwr Di-ben, yn ymddangos, ar gefn ceffyl tebyg i un Brom. Ar ôl cael ei erlid trwy'r goedwig dywyll, mae Ichabod, yn ceisio ffoi dros y bont. Mae'r marchogwr yn ei rwystro, ac yn taflu llusern danllyd at yr ysgolfeistr..

Y bore wedyn, mae het Ichabod yn cael ei darganfod ger y bont ond nid oes sôn am Ichabod ei hun yn unman. Ymhen ychydig, mae Brom yn cymryd Katrina fel ei wraig. Mae sibrydion yn dechrau lledaenu bod Ichabod yn dal yn fyw, yn briod â gweddw gyfoethog mewn sir bell gyda phlant sydd i gyd yn edrych yn debyg iddo. Fodd bynnag, mae pobl ofergoelus Sleepy Hollow yn mynnu ei fod wedi dod yn ysglyfaeth i'r Marchogwr Di-ben.

Cymeriadau

The Wind in the Willows

  • Mr. Toad - Eric Blore
  • Cyril Proudbottom (Ceffyl) - J. Pat O'Malley
  • Ratty (Llygoden bengron y dŵr) - Claud Allister
  • Mole (Gwahadden) - Colin Campbell
  • Angus MacBadger (Mochyn daear) - Campbell Grant
  • Winkie - Oliver Wallace
  • Prosecutor (Erlynydd) - John McLeish
  • Yr Adroddwr - Basil Rathbone

The Legend of Sleepy Hollow

  • Yr Adroddwr - Bing Crosby
  • Ichabod Crane - Bing Crosby
  • Katrina Van Tassel
  • Brom Bones - Bing Crosby

Derbyniad

Cafodd y ffilm adolygiadau da ym mhapurau newyddion yr Unol daleithiau megis y New York Times. [4] Rhoddodd M. Faust o Common Sense Media pump allan o bum seren i'r ffilm. [9] Ar y wefan cydgasglu adolygiadau Rotten Tomatoes, cafodd The Adventures of Ichabod and Mr. Toad sgôr o 94%, yn seiliedig ar 16 adolygiad, gyda sgôr cyfartalog o 7.25 / 10. [10]

Ym mlwyddyn rhyddhau'r ffilm gwnaeth elw o $1,200,000 yn yr Unol Daleithiau a Chanada a $1,625,000 ledled y byd. [11]

Enillodd Wobr Golden Globe am y Ffilm Sinematograffeg Lliw Gorau. [12]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Grahame, Kenneth (1859–1932), writer and secretary of the Bank of England". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/33511. Cyrchwyd 2020-12-16.
  2. "Washington Irving". Biography. Cyrchwyd 2020-12-16.
  3. Algar, James; Geronimi, Clyde; Kinney, Jack (1949-12-15), The Adventures of Ichabod and Mr. Toad, Bing Crosby, Basil Rathbone, Eric Blore, John McLeish, Walt Disney Animation Studios, Walt Disney Productions, https://www.imdb.com/title/tt0041094/, adalwyd 2020-12-16
  4. 4.0 4.1 W, A. (1949-10-10). "THE SCREEN IN REVIEW; ' The Adventures of Ichabod and Mr. Toad' Sees the Return of Disney to Realm of Pure Animation (Published 1949)". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-12-16.
  5. "The Adventures of Ichabod and Mr. Toad". Disney Fandom. Cyrchwyd 2020-12-16.
  6. "The Wind in the Willows | Summary, Characters, & Facts". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-12-16.
  7. GradeSaver. "The Wind in the Willows Summary | GradeSaver". www.gradesaver.com. Cyrchwyd 2020-12-16.
  8. "SuperSummary". SuperSummary. Cyrchwyd 2020-12-16.
  9. "The Adventures of Ichabod and Mr. Toad - Movie Review". www.commonsensemedia.org. 2010-09-02. Cyrchwyd 2020-12-16.
  10. "The Adventures of Ichabod and Mr. Toad (1949)", Rotten Tomatoes, https://www.rottentomatoes.com/m/adventures_of_ichabod_and_mr_toad, adalwyd 2020-12-16
  11. Sedgwick, John (1994-01-01). "Richard B. Jewell's RKO film grosses, 1929–51: the C. J. Trevlin Ledger: a comment". Historical Journal of Film, Radio and Television 14 (1): 51–58. doi:10.1080/01439689400260041. ISSN 0143-9685. https://doi.org/10.1080/01439689400260041.
  12. "The Adventures of Ichabod and Mr. Toad". www.goldenglobes.com. Cyrchwyd 2020-12-16.