The Adventures of Priscilla, Queen of the Desert (ffilm 1994)

Mae The Adventures of Priscilla, Queen of the Desert (1994) yn ffilm gomedi o Awstralia am dri berfformiwr drag (dau ddyn hoyw a gwraig trawsrywiol) sy'n gyrru drwy cefn gwlad o Sydney i Alice Springs mewn bws maent wedi enwi'n Priscilla. Mae'r ffilm yn serennu Hugo Weaving, Guy Pearce a Terence Stamp. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ffilm gan Stephan Elliott. Ers i'r ffilm gael ei rhyddhau, erys yn boblogaidd ac agorodd fel sioe gerdd fawr yng Ngahsino Star City, Sydney ym mis Hydref 2006.

The Adventures of Priscilla, Queen of the Desert

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Stephan Elliott
Cynhyrchydd Al Clark
Michael Hamlyn
Ysgrifennwr Stephan Elliott
Serennu Terence Stamp
Hugo Weaving
Guy Pearce
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Gramercy Pictures
PolyGram
Dyddiad rhyddhau UDA
10 Awst, 1994
Awstralia
8 Medi, 1994 amser_rhedeg = 104 munud
Gwlad Awstralia
Iaith Saesneg

Plot golygu

Derbynia Anthony "Tick" Belrose, neu ei enw llwyfan Mitzi Del Bra (Hugo Weaving), sy'n berfformiwr drag, gynnig i berfformio mewn casino yn Alice Springs, tref anghysbell yng nghanol Awstralia. Wedi iddo berswadio ei ffrindiau a'i gyd-berfformwyr, Bernadette Bassenger (Terence Stamp) - gwraig wedde trawsrywiol - ac Adam Whitley, neu ei enw llwyfan Felicia Jollygoodfellow (Guy Pearce) - perfformiwr drag uchel ei gloch a phryfoclyd - i ymuno ag ef, a'r tri ohonynt i Alice Srings mewn bws mawr a elwir yn "Priscilla, Queen of the Desert" gan Adam/Felicia.

Daw'r tri wyneb yn wyneb ag agweddau cul trigolion cefn gwlad Awstralia, trais rhywiol a phroblemau wrth i'w cerbyd dorri. Yn y pen draw, cyrhaedda'r triawd pen eu taith gyda'u gwisgoedd a'u symudiadau dawns yn barod i'w perfformio. Cyn iddynt gyrraedd, datgela Tick ei fod yn briod (a bod ei wraig naill ai'n hoyw neu'n ddeurywiol) ac mai ffafr i'w wraig, sy'n rhedeg y casino, yw'r daith. Wedi iddynt gyrraedd, dysga Tick fod ganddo ef a'i wraig fab.

Dylanwad Diwylliannol golygu

Yn y gymuned hoyw, ystyrir y ffilm hon fel clasur camp sy'n darlunio cefn gwlad Awstralia mewn ffordd ddelfrydol, gan amlygu ei phryderthwch a'i natur anghysbell. Gwnaeth y ffilm y cysylltiad rhwng y triawd o berfformwyr drag â llwyth Aborigini traddodiadol, delwedd bŵerus o ddwy garfan gymdeithasol a alltudiwyd o gymdeithas, yn canu a dawnsio gyda'i gilydd mewn amgylchiadau annisgwyl. Rhoddodd sianel deledu Logo y ffilm ar rif 11 o'r 50 Ffilm Gorau. Roedd y castio yn y ffilm hefyd yn anghyffredin wrth gastio Terence Stamp, actor sydd gan amlaf wedi chwarae rhannau gwrywaidd, dihirod yn aml, fel gwraig trawsrywiol.

 
Teyrnged i'r perfformwyr drag a'r gwisgoedd yn y ffilm

Dyma oedd y ffilm fawr gyntaf i Pearce a Weaving hefyd, sydd bellach wedi serennu mewn nifer o ffilmiau mawrion.

Ym 1995, rhyddhawyd ffilm Americanaidd To Wong Foo, Thanks for Everything! Julie Newmar, a oedd yn debyg o ran llinnyn stori ac fe'i hystyriwyd gan nifer fel y "fersiwn Americanaidd o Priscilla.

Yn ystod Seremoni Cau Gêmau Olympaidd 2000 yn Sydney, roedd Priscilla yn rhan o'r orymdaith o ddelweddau o ddiwylliant poblogaidd Awstralaidd. Gwelwyd Ford Denning 1980 (yr un math o fws ag a welwyd yn y ffilm) gyda sawdl stileto enfawr arno yn teithio o amgylch Stadiwm Telstra. Cafwyd nifer o lorïau eraill gyda sawdlau stileto arnynt a perfformwyr drag mewn wigiau enfawr yn talu teyrnged i lwyddiant rhyngwladol y ffilm a'r gymuned hoyw leol.[1]

Cast golygu

Mewch cyfweliad gyda BBC Llundain ar yr 17eg o Fedi, 2008 am ei rôl fel Tick yn y sioe lwyfan ym Mhrydain, dywedodd Jason Donovan mai ef oedd y dewis cyntaf am y rôl yn y ffilm, gyda Michael Hutchence fel Adam a Richard E. Grant fel Bernadette.

Trac Sain golygu

  • I've Never Been to Me - Charlene
  • Go West - Village People
  • Billy Don't Be a Hero - Paper Lace
  • My Baby Loves Lovin' - White Plains
  • I Love the Nightlife (Disco 'Round) [Fersiwn gwreiddiol] - Alicia Bridges
  • Can't Help Lovin' That Man - Trudy Richards
  • I Will Survive - Gloria Gaynor
  • Fine Romance - Lena Horne
  • Shake Your Groove Thing [Original Mix] - Peaches & Herb
  • I Don't Care If the Sun Don't Shine - Patti Page
  • Finally [7" Choice Mix] - Ce Ce Peniston
  • Take a Letter Maria - R.B. Greaves
  • Mamma Mia - ABBA
  • Save the Best for Last - Vanessa Williams
  • I Love the Nightlife (Disco 'Round) [Real Rapino 7" Mix] - Alicia Bridges
  • Go West [Original 12" Mix] - Village People
  • I Will Survive [1993 Phil Kelsey Classic 12" Mix] - Gloria Gaynor
  • Shake Your Groove Thing [Original 12" Mix] - Peaches & Herb
  • I Love the Nightlife (Disco 'Round) [Phillip Damien Extended Vox] - Alicia Bridges

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Amgueddfa Powerhouse Adalwyd 01-03-2009]


  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm gomedi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm â thema LHDT. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am sinema Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.