Papur newydd stryd a gyhoeddir mewn wyth gwlad yw'r Big Issue. Fe'i hysgrifennir gan newyddiadurwyr proffesiynol ac fe'i gwerthir gan unigolion di-gartref. Fe'i sefydlwyd gan John Bird a Gordon Roddick ym mis Medi 1991. Mae yn un o fusnesau cymdeithasol mwyaf y DU, ac yn cynnig i bobl di-gartref y cyfle i ennill incwm cyfreithlon, ac felly yn eu cynorthwyo i ymgyfrannu i mewn i gymdeithas prif ffrwd. Mae'n bapur newydd stryd gyda'r cylchrediad mwyaf yn y byd.[4][5]

The Big Issue

Big Issue, 2010
Prif Olygydd John Bird
Categorïau Adloniant
Amlder Wythnosol
Cylchrediad 175,000 (ers 2007)[1]
Cwmni Sefydliad The Big Issue
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Awstralia
Siapan
De Affrica
Namibia
Cenia[2]
Malawi[3]
Dod o Lloegr
Iaith Saesneg (Argraffiad y DU, ond mae rhannau Cymraeg yn fersiwn Cymru)
Gwerthwr y Big Issue yn Stonegate, Efrog

I ddyfod yn werthwr, mae'n rhaid bod yn ddi-gartref neu'n dan berygl cael ymosod ar eich cartref neu ymyleiddiedig mewn rhyw ffordd. Mae e'n cydnabod mai hwn yw'r cam cyntaf o ymgartrefu'n rhywle fel arfer; felly, mae Sefydliad y Big Issue yn bodoli er mwyn cefnogi gwerthwyr mewn rheoli eu bywydau gan fynd i'r afael â materion sy'n arwain at ddigartrefedd.

Disgrifir y Big Issue yn un o bapurau newydd stryd mwyaf llwyddiannus yn y byd, gan werthu rhyw 300,000 copi bob wythnos, ac fe'i restrir yn drydydd hoff bapur newydd bobl ifanc y DU (rhwng 15 a 24) yn 2001.[6]

Mae pum argraffiad lleol a werthir ledled y DU. Mae gwerthwyr yn eu prynu am £1.00[7] ac yn eu gwerthu am £2.00. Fe'i gynhyrchir a gwerthir hefyd yn Awstralia, Iwerddon, De Corea, De Affrica, Siapan, Namibia, Cenia, Malawi a Taiwan. Mae pob gwerthwr yn derbyn hyfforddiant, arwyddo cod ymddygiad[8] ac yn cario bathodynnau sy'n cynnwys eu llun a rhif gwerthwr.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Big Issue relaunched as sales rise. The Guardian (18 Ebrill 2008).
  2. (Saesneg) Introduction & History. Big Issue.
  3. (Saesneg) Malawi Magazine to Help Provide Financial Support to Poor. Voice of America (13 Mawrth 2009).
  4. Heinz, Teresa L. (2004). gol. David Levinson: Street Newspapers (Encyclopedia of Homelessness) (yn en). SAGE Publications, tud. 538. ISBN 0761927514URL
  5. (Saesneg) Small Papers, Big Issues. Ryerson Review of Journalism (2002). [dolen marw]
  6. (Saesneg) The press takes to the street. The UNESCO Courier. UNESCO (15 Mai 2001).
  7. (Saesneg) How We Work. The Big Issue.
  8. ""The Big Issue - Code of Conduct"" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-07-05. Cyrchwyd 2010-07-05.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: