Roedd The Clash yn fand pync-roc o Llundain yn Lloegr. Cafodd y band ei ffurfio yn 1976, a daeth gyrfa y band i ben yn 1986. Joe Strummer (gitâr, llais), Mick Jones (gitâr, llais), Paul Simonon (gitâr bâs, llais) a Terry Chimes (drymiau) oedd yr aelodau gwreiddiol, ond ond fuan ar ôl ffurfio, wnaeth y tri aelod cyntaf gytuno i Topper Headon gymryd lle Chimes. Wnaethon nhw lwyddo i werthu recordiau yn y UDA, camp go iawn i fand pync Prydeinig. Ystyrir y band, yn ogystal â'r Sex Pistols, i fod yn un o'r bandiau mwyaf dylanwadol y mudiad pync.

The Clash
Enghraifft o'r canlynolband roc, band Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Label recordioSony Music, Columbia Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1976 Edit this on Wikidata
Dod i ben1986 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1976 Edit this on Wikidata
Genrepync-roc, y don newydd, Ska, reggae, ôl-pync Edit this on Wikidata
Yn cynnwysJoe Strummer, Mick Jones, Paul Simonon, Topper Headon, Terry Chimes Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.theclash.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Agweddau gwleidyddol y band golygu

Roedd y band yn enwog am fabwysiadu agwedd gwrth-hiliol. Yn 1977, rhyddhawyd 'White Riot', cân a oedd yn cydymdeimlo â phrofiadau pobl duon yn Llundain. Y flwyddyn wedyn, wnaethon nhw chwarae'r gŵyl Rock Against Racism yn Llundain. Roeddent hefyd yn wrth-niwclear, yn rhyddhau traciau megis 'Stop The World' a chaneuon eraill yn erbyn trais yn fwy cyffredinol.

Gweithiau golygu

Wnaethon nhw ryddhau chwech albwm stiwdio:

  • The Clash (1977)
  • Give 'Em Enough Rope (1978)
  • London Calling (albwm dwbl; 1979)
  • Sandinista! (albwm triphlyg; 1980)
  • Combat Rock (1982)
  • Cut the Crap (1985)

Cafodd albwm byw, sef From Here To Eternity: Live, ei ryddhau yn 1999.

Yn 1991, aeth cân o Combat Rock, 'Should I Stay Or Should I Go', i frig y siartiau ym Mhrydain ar ôl iddi gael ei defnyddio mewn hysbyseb teledu.

Cyfeiriad golygu

  • John Robb (gol.), Punk Rock: An Oral History (Ebury, 2005).