Ffilm am karate a ryddhawyd yn 1984 yw The Karate Kid. Cyfarwyddwr y ffilm oedd John G. Avildsen ac ymhlith yr actorion roedd Ralph Macchio, Pat Morita ac Elisabeth Shue. Mae'n ffilm sy'n ymdrin â karate lle mae'r prif gymeriad yn gorfod goresgyn nifer o anawsterau cyn iddo ddod yn bencampwr. I raddau helaeth, dilyna'r stori batrwm un o ffilmiau blaenorol a hynod lwyddiannus Avildsen, sef Rocky ym 1976, lle roedd paffio yn brif destun y ffilm. Bu The Karate Kid yn llwyddiant masnachol mawr pan gafodd ei rhyddhau. Derbyniodd adolygiadau canmoladwy hefyd, gan arwain at Pat Morita yn cael ei enwebu am Oscar am Actor Cefnogol Gorau.

The Karate Kid

Poster y Ffilm 1984
Cyfarwyddwr John G. Avildsen
Cynhyrchydd Jerry Weintraub
R. J. Louis (Uwch Gynhyrchydd)
Bud S. Smith (Cynhyrchydd Cynorthwyol)
Ysgrifennwr Robert Mark Kamen
Serennu Ralph Macchio
Noriyuki "Pat" Morita
Elisabeth Shue
Martin Kove
William Zabka
Randee Heller
Cerddoriaeth Bill Conti
Sinematograffeg James Crabe
Golygydd John G. Avildsen
Walt Mulconery
Bud S. Smith
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Columbia Pictures
Dyddiad rhyddhau 22 Mehefin, 1984
Amser rhedeg 127 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.