Cylchgrawn Saesneg a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig yw The Liberal sydd ag agwedd ryddfrydol. Mae'n hawlio llinach â The Liberal, cyfnodolyn byr ei oes a sefydlwyd ym 1822 gan y beirdd Rhamantaidd Percy Bysshe Shelley, yr Arglwydd Byron, a Leigh Hunt. Lansiwyd y cylchgrawn modern yng Ngorffennaf 2004.

The Liberal
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluRhagfyr 2004 Edit this on Wikidata
SylfaenyddPercy Bysshe Shelley Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.theliberal.co.uk/ Edit this on Wikidata

Mae cyfranwyr i'r cylchgrawn yn cynnwys Harold Bloom, Helen Suzman, Christopher Hitchens, Germaine Greer, Garry Kasparov, Robert Reich, Julia Kristeva, Liu Xiaobo, Johann Hari, Martin Rees, Wole Soyinka, Clive James, Slavoj Žižek, a Simon Sebag Montefiore.

Dolen allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am newyddiaduraeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.