The Nightmare Before Christmas

ffilm ffantasi am gerddoriaeth gan Henry Selick a gyhoeddwyd yn 1993

Ffilm ffantasi gerddorol animeiddiedig 1993 a gynhyrchwyd ac ysgrifennwyd gan Tim Burton yw The Nightmare Before Christmas ("Yr Hunllef o Flaen Nadolig"). Cyfarwyddwyd gan Henry Selick gyda cherddoriaeth gan Danny Elfman. Mae'r ffilm yn seiliedig ar gymeriadau a stori gwreiddiol Burton. Adrodda hanes Jack Skellington, sy'n dod o "Dref Calan Gaeaf" sy'n agor porthol o "Dref Nadolig". Darparodd Danny Elfman lais canu Jack, yn ogystal â chymeriadau bychain eraill. Darparwyd lleisiau gweddill y prif gast gan Chris Sarandon, Catherine O'Hara, William Hickey, a Glen Shadix.

The Nightmare Before Christmas

Poster Ffilm Wreiddiol
Cyfarwyddwr Henry Selick
Cynhyrchydd Tim Burton
Denise DiNovi
Ysgrifennwr Tim Burton (stori)
Caroline Thompson (sgreenplay)
Michael McDowell (adaptation)
Serennu Chris Sarandon
Danny Elfman
Catherine O'Hara
William Hickey
Glenn Shadix
Paul Reubens
Cerddoriaeth Danny Elfman
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Touchstone Pictures
Dyddiad rhyddhau 22 Hydref 1993
Amser rhedeg 76 munud
Gwlad UDA
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Dechreuodd The Nightmare Before Christmas gyda cherdd gan Burton pan oedd yn animeiddiwr i Disney ar ddechrau'r 1980au. Yn sgil llwyddiant Vincent ym 1982, dechreuodd Disney ystyried cynhyrchu The Nightmare Before Christmas naill ai fel stori fer neu fel rhaglen arbennig 30 munud o hyd. Dros y blynyddoedd, dychwelodd meddyliau Burton i'r prosiect, ac ym 1990 daeth Burton a Disney i gytundeb i ddatblygu'r syniad. Dechreuodd y broses gynhyrchu ym mis Gorffennaf 1991 yn San Francisco. Penderfynodd Walt Disney ryddhau'r ffilm o dan eu baner Touchstone Pictures am eu bod o'r farn y byddai Nightmare yn "rhy dywyll a brawychus i blant".[1] Bu'r ffilm yn llwyddiant ymysg y beirniaid ffilm ac yn fasnachol. Ail-ryddhawyd y ffilm yn 2006, 2007, a 2008 yn eu fformat Disney Digidiol 3-D.

Plot golygu

Mae "Tref Calan Gaeaf" yn fyd breuddwydiol yn llawn dinasyddion fel anghenfilod, ysbrydion, ellyllon, fampirod, bleiddbersonau a gwrachod. Mae Jack Skellington ("The Pumpkin King") yn eu harwain mewn dathliad brawychus blynyddol ar gyfer Calan Gaeaf, ond mae ef wedi diflasu ar yr un drefn rigolaidd bob blwyddyn. Tra'n crwydro yn y goedwig y tu allan i ganol y ddinas, daw o hyd i borthol i "Dref Nadolig". Caiff ei blesio gan deimlad a steil Nadolig ac felly mae'n cyflwyno ei ddarganfyddiad a'i ddealltwriaeth cyfyng o'r Nadolig i drigolion Tref Calan Gaeaf. Nid yw'r trigolion yn deall yr hyn mae ef yn dweud wrthynt ac maent yn cysylltu a chymharu popeth gyda'u syniad hwy o Galan Gaeaf. Cytuna Jack (yn anfoddog braidd) i fynd gyda'r llif a chyhoedda y byddant yn cymryd rheolaeth o'r Nadolig.

Oherwydd ei obsesiwn gyda'r Nadolig, cymer Jack rôl Sion Corn. Caiff holl drigolion y dref dasg wahanol, tra bod Sally, gwraig doli glwt y ffilm a grëwyd gan wyddonydd gwallgof y dref yn dechrau ffansio Jack. Fodd bynnag, mae hi'n ofni y bydd cynllwyn Jack yn drychinebus. Mae Jack yn penodi Lock, Shock, a Barrel, triawd o blant drygionus, i herwgipio Sion Corn a'i ddychwelyd i Dref Calan Gaeaf. Yn groes i ddymuniadau Jack ac i raddau er mwyn creu adloniant i'w hunain, mae'r triawd yn trosglwyddo Sion Corn i Oogie Boogie, bwci-bo sy'n gaeth i gamblo, ac sy'n cynllwynio i chwarae gêm gyda bywyd Sion Corn fel y wobr.

Cyrhaedda Noswyl y Nadolig ac mae Sally'n ceisio rhwystro Jack, ond mae e'n gadael trwy'r awyr mewn arch sy'n edrych fel sled wedi'i dynnu gan garw sgerbydol sydd â thrwyn goleuedig. Dechreua ddosbarthu anrhegion i blant y byd, ond cwyd yr anrhegion (pennau bychain, nadroedd sy'n bwyta coed a.y.y.b.) ofn ar y plant. Credir fod Jack yn dwyllwr sy'n ceisio efelychu Sion Corn a chaiff y fyddin gyfarwyddiadau i saethu Jack o'r awyr. Saethir y sled a chred trigolion Tref Calan Gaeaf ei fod wedi marw. Fodd bynnag mae Jack wedi goroesu'r ddamwain ac er ei fod yn siomedig ym methiant ei gynllwyn, dechreua feddwl am gynlluniau ar gyfer y Calan Gaeaf nesaf. Mae'n rhuthro adref i achub Sion Corn a cheisio gwneud iawn am ei gamgymeriadau.

Yn y cyfamser, mae Sally'n ceisio rhyddhau Sion Corn ond caiff ei chipio gan Oogie. Llwydda Jack i fynd i'w lechfa a'u rhyddhau, yna mae'n herio Oogie gan ddiosg ei orchudd allanol gan adael yr holl bryfed sy'n byw y tu mewn iddo yn rhydd. Gydag Oogie bellach wedi mynd, mae Santa'n rhoi stwr i Jack cyn mynd o amgylch y byd yn dosbarthu'r anrhegion cywir i'r plant. Er mwyn dangos i Jack nad yw'n dal dîg, mae'n gwneud i eira syrthio ar Dref Calan Gaeaf; i ddehcrau, mae trigolion y dref yn ansicr o'r eira, ond yn fuan dechreuant chwarae ynddo. Mae Jack yn datgelu ei fod yn ffansio Sally ac maent yn cusanu o dan lleuad lawn yn y fynwent.

Cast a chymeriadau golygu

  • Danny Elfman (yn canu) a Chris Sarandon fel Jack Skellington: Sgerbwd sy'n cael ei adnabod fel y "Pumpkin King" yn Nhref Calan Gaeaf. Mae ganddo anifail anwes, ci ar ffurf ysbryd o'r enw Zero, sydd â thrwyn wedi'i oleuo. Mae Jack yn ceisio "gwella" Naoldig drwy ychwanegu elfennau o Galan Gaeaf, ond mae gan y cynllun ganlyniadau trychinebus.
  • Catherine O'Hara fel Sally: Cymeriad sydd fel doli glwt. Ffurfia berthynas glos a rhamantaidd â Jack a hi yw'r unig berson o Dref Calan Gaeaf sy'n rhagweld canlyniadau trychinebus cynlluniau Jack. Gweithiodd Burton gyda O'Hara ar Beetlejuice (1998).
  • William Hickey fel Doctor Finklestein: y gwyddonydd gwallgof a grëodd Sally. Mae Finklestein yn creu carw sgerbydol i Jack, ac yn creu cyfaill enaid iddo ar ddiwedd y ffil.
  • Glenn Shadix fel Maer Tref Clan Gaeaf: Arweinydd brwdfrydig sy'n cynnal cyfarfodydd yn y dref a sydd wrth ei fodd gyda chynlluniau Jack ar gyfer y Nadolig.
  • Ken Page fel Oogie Boogie: Dyn arswydus a thrigolyn di-barch yn nhref Calan Gaeaf. Mae wrth ei fodd yn hapchwarae.
  • Ed Ivory fel Sion Corn: Yn gyfrifol am ddathliad blynyddol y Nadolig drwy ddosbarthu anrhegion i blant ledled y byd. Yn y pen draw, mae Sion Corn yn achub y Nadolig pan mae Jack bron a dinistrio'r gwyliau (yn ddamweiniol). Mae Jack yn camynganu ei enw dro ar ôl tro, trwy ei alw'n 'Sandy Claws'.
  • Paul Reubens, ynghyd â O'Hara ac Elfman a ddarparodd y lleisiau ar gyfer Lock, Shock, a Barrel. Yn flaenorol, gweithiodd Reubens gyda Burton yn Pee-wee's Big Adventure (1985). Hefyd Elfman ddarparodd y llais ar gyfer y "Clown with the Tear-Away Face". Mae'r cast hefyd yn cynnwys y digrfiwr Greg Proops o Whose Line is it Anyway? a bortreadodd nifer o gymeriadau.
Cymeriad Saesneg (gwreiddiol) actor llais Ffrangeg actor llais Almaeneg actor llais Sbaeneg actor llais Eidaleg actor llais Siapaneaidd actor llais Pwyleg actor llais
Jack Skellington Chris Sarandon/

Danny Elfman (canu)

Olivier Constantin Alexander Goebel Antonio Miguel Fernández Ramos
Tony Cruz (canu)
Renato Zero Masachika Ichimura Wojciech Paszkowski
Sally Catherine O'Hara Dorothée Jemma
Nina Morato (canu)
Nina Hagen Ángela González
María Caneda (canu)
Laura Boccanera
Marjorie Biondo(canu)
Yūko Doi Joanna Węgrzynowska
Doctor Finklestein William Hickey Bernard Tiphaine Fred Maire Simón Ramírez Francesco Vairano Yūji Mitsuya Mieczysław Morański
Maer Tref Nos Galan Gaeaf
(Mayor of Halloween Town)
Glenn Shadix Daniel Beretta Michael Gahr Juan Miguel Cuesta
Javier Pontón (canu)
Giorgio López Tōru Ōhira Zbigniew Konopka
Oogie Boogie Ken Page Richard Darbois Ron Williams Jesús Castejón Ennio Coltorti
Andrea Surdi (canu)
Atomu Kobayashi Krzysztof Kołbasiuk
Lock Paul Reubens Michel Costa Niko Macoulis N/A N/A Shintarō Sonōka Jacek Wolszczak
Shock Catherine O'Hara Céline Monsarrat Katrin Fröhlich Natalia Sosa Monica Ward Yūko Doi Beata Wyrąbczkiewicz
Barrel Danny Elfman Bertrand Liébert Crock Krumbiegel Raúl Aldana N/A Shigeo Mazawa Tomasz Steciuk
Sandy Claws Ed Ivory Henri Poirier Manfred Lichtenfeld Julio Núñez Silvio Spaccesi Tomoaki Nagae Andrzej Chudy

Trac Sain golygu

Rhyddhawyd trac sain y ffilm ym 1993 ar label Walt Disney Records. Pan ail-ryddhawyd y ffilm yn 2006, rhyddhawyd trac sain arbennig a oedd yn cynnwys disg ychwanegol gyda fersiynnau gan Fall Out Boy, Panic! At the Disco, Marilyn Manson, Fiona Apple, a She Wants Revenge o ganeuon gwreiddiol y ffilm. Cynhwyswyd chwech trac demo a wnaed gan Elfan hefyd. Ar y 30ain o Fedi, 2008, rhyddhaodd Disney yr albwm Nightmare Revisited.

  • "This Is Halloween"
  • "Jack's Lament"
  • "What's This?"
  • "Town Meeting Song"
  • "Jack's Obsession"
  • "Kidnap the Sandy Claws"
  • "Making Christmas"
  • "Oogie Boogie's Song"
  • "Sally's Song"
  • "Poor Jack"

Cyfeiriadau golygu

  1. Scott Collura (2006-10-20). "The Nightmare Before Christmas 3-D: 13 Years and Three Dimensions Later".[dolen marw] IGN. Adalwyd ar 2008-09-27.