The Only Way Is Essex

Sioe dramaliti sydd wedi'i lleoli yn Essex, Lloegr ydy The Only Way Is Essex, (a dalfyrrir yn aml i TOWIE)[1][2]. Mae'r sioe wedi ennill Gwobr BAFTA. Dangosa'r rhaglen "bobl go iawn mewn sefyllfaoedd sydd wedi'u haddasu, yn dweud llinellau sydd heb eu sgriptio ond mewn ffordd strwythuredig."[3]

The Only Way Is Essex
Genre Dramaliti
Serennu Joey Essex
Jessica Wright
Lauren Goodger
James Argent
Lydia Rose Bright
Sam Faiers
Gemma Collins
Chloe Sims
Lucy Mecklenburgh
Lauren Pope
Gwlad/gwladwriaeth Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 4
Nifer penodau 42
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30-60 munud (cyfres 1)
45-60 munud (cyfres 2 - presennol)
Darllediad
Sianel wreiddiol ITV2
ITV2 HD
Darllediad gwreiddiol 10 Hydref, 2010 - presennol
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Ffilmir y sioe ychydig ddyddiau cyn ei darlledu. Yn wreiddiol, darlledwyd y gyfres gyntaf am bedair wythnos, ar ddyddiau Mercher a Sul. Trosleisir y gyfres gan Denise Van Outen, sy'n hannu o Basildon, Essex. Disgrifiwyd y sioe gan y Daily Mirror fel y fersiwn Brydeinig o The Hills a Jersey Shore.[4] Dechreuodd yr ail gyfres ar 20 Mawrth 2011, gan ddarlledu unwaith eto ar ddyddiau Sul a Mercher ond gyda rhaglenni hirach. Erbyn yr ail gyfres, roedd aelod o'r cast gwreiddiol Amy Childs hefyd wedi gadael y rhaglen. Cafwyd 14 rhaglen yn yr ail gyfres, a daeth i ben ar 4 Mai 2011. Dychwelodd am drydedd gyfres ar 25 Medi 2011 a dyma oedd y gyfres olaf lle gwelwyd Mark Wright a Kirk Norcross. Daeth y gyfres i ben ar 9 Tachwedd 2011.[5] Darlledwyd y rhaglen Nadoligaidd o The Only Way Is Essex ar 20 Rhagfyr 2011. Cyhoeddwyd y cast ar gyfer Cyfres 4 yn swyddogol ar 24 Ionawr, a datgelwyd na fyddai Maria Fowler a Harry Derbidge yn dychwelyd.[6] Ar 25 Ionawr, enwebwyd y rhaglen am y "Rhaglen Realiti Mwyaf Poblogaidd" yn y National Television Awards.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato