The Proud Valley

ffilm ddrama gan Pen Tennyson a gyhoeddwyd yn 1940

Ffilm a wnaed gan Ealing Studios am bentref glofäol yng Nghymoedd De Cymru ac a gynhyrchwyd yn 1940 yw The Proud Valley, gyda'r baswr Paul Robeson a Rachel Thomas yn serennu ynddi.

The Proud Valley
Teitl amgen David Goliath; The Tunnel
Cyfarwyddwr Pen Tennyson
Cynhyrchydd Michael Balcon
Ysgrifennwr Penrose Tennyson, Jack Jones, Louis Golding (sgript)
Herbert Marshall, Alfredda Brilliant (stori)
Serennu Paul Robeson
Edward Chapman
Simon Lack
Rachel Thomas
Cerddoriaeth Ernest Irving
Sinematograffeg Glen MacWilliams, Roy Kellino
Golygydd Ray Pitt
Sain Eric Williams
Dylunio Wilfrid Shingleton
Cwmni cynhyrchu CAPAD ar gyfer Ealing Films
Dyddiad rhyddhau 6 Ebrill 1940
Amser rhedeg 77 munud
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
Robeson yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958.

Lleolir y stori ym maes glo De Cymru ac mae'n adrodd stori glöwr croenddu (sef Paul Robeson neu "David Goliath") sydd hefyd yn ganwr arbennig o dda ac sy'n ymuno gyda'r côr meibion lleol. Mae'r ffilm yn dangos caledi bywyd y glöwyr a'u teuluoedd yr adeg honno.

Mae'r ffilm wedi'i lleoli ym 1938, yn union wedi Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926 a'r Dirwasgiad Mawr.

Yn wahanol i ffilmiau Hollywood yr oes dangosodd hon realaeth bywyd y dyn croenddu a flynyddoedd yn ddiweddarach mynegodd Robeson mai hon oedd ei ffefryn gan ei bod yn dangos y croenddu a'r gweithiwr cyffredin mewn modd positif: "It depicts the Negro as he really is—not the caricature he is always represented to be on the screen".

Cast a chriw golygu

Prif gast golygu

  • Paul Robeson (David Goliath)
  • Edward Chapman (Dick Parry)
  • Edward Rigby (Bert)
  • Simon Lack (Emlyn Parry)
  • Janet Johnson (Gwen Owen)
  • Rachel Thomas (Mrs. Parry)

Cast cefnogol golygu

  • Charles Williams (Evans)
  • Dilys Thomas (Dilys)
  • Jack Jones (Thomas)
  • Dilys Davies (Mrs Owen)
  • Clifford Evans (Seth Jones)
  • Allan Jeayes (Mr Trevor)
  • George Merritt (Mr Lewis)
  • Edward Lexy (Commissionaire Jackson)

Cydnabyddiaethau eraill golygu

  • Cynhyrchydd Cysylltiol – Sergei Nolbandov
  • Rheolwr Cynhyrchu – Frederick James
  • Recordydd – Stephen Dalby

Manylion technegol golygu

Tystysgrif ffilm: Untitled Certificate

Fformat saethu: 35mm

Lliw: Du a Gwyn

Lleoliadau Saethu: Bu’r ffilmio yn bennaf yn Stiwdios Ealing, ar gyrion Llundain. Cafwyd peth ffilmio ar leoliad, er enghraifft ffilmiwyd y golygfeydd o’r pwll glo ffuglennol yng nglofeydd Cwmni Shelton Coal and Iron yn ardal Stoke-on-Trent, tra ffilmiwyd y golygfyedd o’r gymuned yn ymgasglu er mwyn dathlu ymadawiad rhai o’r glowyr ar orymdaith i Lundain yn Llantrisant.

Llyfryddiaeth golygu

  • Charles Barr, Ealing Studios (2il argraffiad, Studio Vista, 1995)
  • David Berry, Wales and Cinema: the first hundred years (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
  • Michael Balcon, A Lifetime of Films (Llundain, 1969)
  • Donald Bogle, ‘Paul Robeson: Black Colossus’ yn Toms, Coons, Mulattoes and Bucks (Efrog Newydd, 2003), tt. 94–100
  • Stephen Bourne, ‘Lonely Road: The British Films of Paul Robeson’, Black in the British Frame (Llundain, 1998)
  • T. J., Davies, Paul Robeson (Abertawe, 1981)
  • Gwenno Ffrancon, Cyfaredd y Cysgodion: Delweddu Cymru a’i Phobl ar Ffilm 1935–51 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2003)
  • Gwenno Ffrancon, 'Y Graith Las ar Gynfas Arian: Delweddu'r Glöwr Cymreig ar Ffilm' yn G. H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XIX: Ysgrifau ar Hanes Cymru (Gomer, Llandysul, 2004), tt. 164–92.
  • Gwenno Ffrancon, ‘Affro-Americaniaid a’r Cymry ar y Sgrin Fawr’ yn Daniel G. Williams (gol.), Canu Caeth: Cymru ac Affro-America (Gomer, 2010)
  • George Perry, Forever Ealing (Llundain, 1981)
  • Jeffrey Richards, ‘The Black Man as Hero’, Films and British National Identity (Manceinion, 1997)
  • Peter Stead, ‘Wales in the Movies’ yn Tony Curtis (gol.), Wales – The Imagined Nation (Penybont ar Ogwr, 1986)

Gwefannau golygu

Adolygiadau golygu

  • The Prompter, ‘Welsh Artists Chosen for New British Film’, South Wales Echo, 2 Medi 1939, t. 3.
  • The Stroller, ‘Here’s a Real Life Picture of the Welsh Coalfield’, South Wales Echo, 15 Rhagfyr 1939, t. 3.
  • Dienw, Monthly Film Bulletin, 7, rhif 73, Ionawr 1940, t. 2. [ar gael ar wefan Screenonline]
  • Dienw, ‘Robeson in a Film of Welsh Miners’, The Guardian, 7 Mawrth 1940, t. 8.
  • Anthony Bower, ‘The Movies’, The New Statesman and Nation, 19, rhif 472, 9 Mawrth 1940, t. 306.
  • Michael Driver, ‘Worth Your Money’, Reynold’s Newspaper, 10 Mawrth 1940.
  • C. A. Lejeune, ‘The Films’, The Observer, 10 Mawrth 1940.
  • Jane Morgan, ‘Robeson in a well directed part’, The Daily Worker, 11 Mawrth 1940, t. 3.
  • Graham Greene, ‘The Cinema’, The Spectator, 5829, 15 Mawrth 1940, t. 361.
  • Lionel Collier, ‘Welsh Miners come into their own’, Picturegoer and Film Weekly, 9, rhif 461, 23 Mawrth 1940, t. 24.
  • Richard Mallett, ‘At the Pictures’, Punch, CXCVIII, rhif 5165, 27 Mawrth 1940, t. 340.
  • J. Walter Nayes, ‘ The Proud Valley’, Cardiff and Suburban News, 27 Ebrill 1940, t. 3.

Erthyglau golygu

  • Gwenno Ffrancon, ‘Glan. Gofalus. Gwallgof: Datblygiad y portread ar sgrîn o’r Fam Gymreig’, Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 4 (GPC, Ebrill 2007), tt. 71–86.
  • Stephen Ridgwell, ‘South Wales and the cinema in the 1930s’, Cylchgrawn Hanes Cymru, 17:4 (1995), tt. 590–615.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod The Proud Valley ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.