The Spy Who Loved Me (ffilm)

ffilm acsiwn, llawn cyffro llawn antur gan Lewis Gilbert a gyhoeddwyd yn 1977

Degfed ffilm yng nghyfres James Bond yw The Spy Who Loved Me (1977), a'r drydedd i serennu Roger Moore fel yr asiant cudd MI6 ffuglennol. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Lewis Gilbert ac ysgrifennwyd y sgript gan Christopher Wood a Richard Maibaum. Daw enw'r ffilm o deitl degfed nofel Ian Fleming er am fod Fleming wedi gofyn mai dim ond enw'r llyfr oedd i gael ei ddefnyddio, nid yw'r ffilm yn cynnwys unrhyw ddigwyddiadau o'r nofel The Spy Who Love Me. Mae'r ffilm yn sôn am Stromberg, gwr sy'n ysu am bŵer sy'n bwriadu dinistrio'r byd a chreu gwareiddiad newydd o dan y mor. Cydweithia Bond gyda asiant Rwsiaiddd Anya Amasova er mwyn atal Stromberg.

The Spy Who Loved Me

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Lewis Gilbert
Cynhyrchydd William P. Cartlidge
Albert R. Broccoli
Ysgrifennwr Christopher Wood
Addaswr Richard Maibaum
Christopher Wood
Serennu Roger Moore
Barbara Bach
Curd Jürgens
Richard Kiel
Cerddoriaeth Marvin Hamlisch
Prif thema Nobody Does It Better
Cyfansoddwr y thema Marvin Hamlisch
Carole Bayer Sager (Geiriau)
Perfformiwr y thema Carly Simon
Sinematograffeg Claude Renoir
Golygydd John Glen
Dylunio
Cwmni cynhyrchu United Artists
Dyddiad rhyddhau 7 Gorffennaf 1977
Amser rhedeg 125 munud
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
Cyllideb $14,000,000 (UDA)
Refeniw gros $185,400,000
Rhagflaenydd The Man with the Golden Gun (1974)
Olynydd Moonraker (1979)
(Saesneg) Proffil IMDb


Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ysbïo. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.