Theatr y Grand, Abertawe

Theatr y Grand yw prif theatr Abertawe, Cymru, ar gyfer y celfyddydau creadigol. Lleolir y theatr yng nghanol y ddinas. Perfformir amrywiaeth o ddramâu a phantomeimiau yno ac mae'n gyrchfan flaenllaw ar gyfer perfformiadau theatrig teithiol sy'n ymweld ag Abertawe.

Theatr y Grand, Abertawe
Maththeatr, sinema Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1897 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1897 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6181°N 3.9478°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCyngor Dinas a Sir Abertawe Edit this on Wikidata

Pantomeim golygu

Cynhelir pantomeim blynyddol yn y theatr lle mae person neu bersonau enwog o operau sebon neu gyfresi teledu yn chwarae rhan un o'r prif gymeriadau. Mae cyfnod perfformiadau'r pantomeim yn dechrau yng nghanol mis Rhagfyr ac yn diweddu yng nghanol mis Ionawr. Yn aml, mae'r holl docynnau wedi'u gwerthu o fewn wythnosau o gael eu rhyddhau i'r cyhoedd o ganlyniad i safon y cynhyrchiad. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r troellwr disgiau o Sain Abertawe Kevin John wedi chwarae rhan y 'Pantomime Dame'. Ymhlith y ser sydd wedi perfformio ym mhantomeim Theatr y Grand Abertawe mae Ryan Davies, Keith Harris, Melinda Messenger, Linda Lusardi, Little and Large, Mark Little, Owen Money a Rob Brydon.

Comedi golygu

Mae rhai o brif ser y byd comedi wedi ymddangos yn y Stiwdio Depot yn Theatr y Grand Abertawe ar ddydd Mercher olaf pob mis. Yn ogystal â hyn, mae clybiau comedi Jongleurs a nifer a ddigrifwyr 'standup' y Deyrnas Unedig hefyd yn ymweld â'r theatr yn flynyddol.

Hanes y Theatr golygu

Ers 1897, mae Theatr y Grand Abertawe wedi bod yn darparu ystod eang o adloniant diwylliannol, creadigol a chyffredinol i'r cyhoedd. Cynlluniwyd Theatr y Grand gan y pensaer William Hope o Newcastle ym 1897. Fe'i hadeiladwyd gan D. Jenkins a chafodd y theatr ei hagor gan Madam Adelina Patti - Diva Opera yn ei chyfnod - ar ran y perchnogion gwreiddiol Morell a Mouillot.

Llogodd Corfforaeth Abertawe yr adeilad ym mis Mai 1969 a'i brynu llwyr ym 1979. Yna cafodd y theatr wedd-newidiad a diweddariad rhwng 1983 a 1987 am gost o £6.5 miliwn. Yn ogystal â hyn, gwariwyd £1 miliwn yn ychwanegol ar Adain y Celfyddydau a agorodd ei drysau am y tro cyntaf ym 1999.

Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae "Y Grand" wedi gwella'n sylweddol o ganlyniad i fuddsoddiad a chefnogaeth wrth yr hen Corfforaeth Abertawe, Cyngor Dinas Abertawe ac yn fwy diweddar Cyngor a Dinas Abertawe. Fodd bynnag, nid yw hunaniaeth unigryw y theatr wedi dioddef o ganlyniad i'r gwelliannau a wnaed i'r adeilad ac erbyn heddiw mae Theatr y Grand cyn lawned o gymeriad ac awyrgylch ag ydoedd pan agorwyd drysau'r theatr flynyddoedd maith yn ôl.