Thimphu yw prifddinas Bhwtan, yn ogystal â bod yn enw ar yr ardal amgylchol a'r dzongkhag, Rhanbarth Thimphu. Gyda phoblogaeth o tua 50,000 (2003), Thimphu yw dinas fwyaf y wlad. Ei lleoliad yw 27°28′00″Gog., 89°38′30″Dwy. Ceir hefyd y ffurf orllewinol Thimbu.

Thimphu
Mathdinas, dinas fawr, endid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Poblogaeth114,551 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1955 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+06:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirThimphu District Edit this on Wikidata
GwladBaner Bhwtan Bhwtan
Arwynebedd27 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,321 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Raidāk Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27.4714°N 89.6337°E Edit this on Wikidata
Map

Tashichoedzong, y gaer-fynachlog ar ymyl ogleddol y ddinas, a godwyd yn yr 17g, yw sedd llywodraeth y wlad er 1952.

Mae'r ddinas yn ymestyn dros lethrau gorllewinol Dyffryn Wang Chhu. Mae Thimphu wedi gweld tyfiant sylweddol mewn canlyniad i'r all-lifo poblogaeth o gefn-gwlad. Norzin Lam yw'r brif stryd, gyda nifer o siopau, bwytai, ac adeiladau cyhoeddus. Mae pob adeilad yn y ddinas yn gorfod dilyn rheolau cynllunio caeth ynglŷn â phensaerniaeth ac ymddangosiad i adlewyrchu traddodiadau Bwdhaidd y wlad. Cynhelir marchnad ar y penwythnos ar lan yr afon. Lleolir y rhan fwyaf o ddiwydiant ysgafn y ddinas ar ei chyrrion i'r de o'r afon. Lleolir mynachlogydd Dechenphu, Tango a Cheri, ynghyd â Phalas Dechenchoeling, cartref swyddogol brenin Bhwtan, i'r gogledd o'r ddinas.

Yn Thimphu hefyd ceir Llyfrgell Genedlaethol Bhwtan.